Mae cwmni theatr Frân Wen wedi cyhoeddi rhaglen ar gyfer tymor Haf/Hydref 2024.

Mae'r rhaglen yn cynnwys trioleg unigryw yn seiliedig ar gymeriad Arianrhod o’r Mabinogi a sioe gerdd newydd arbennig gan Seiriol Davies.

Bydd trioleg OLION yn brofiad unigryw ar ffurf sioe theatr, cynhyrchiad safle benodol sy’n cynnwys digwyddiad awyr agored cymunedol ar hyd strydoedd Bangor, a ffilm fer ddigidol. 

Bydd y drioleg o brofiadau amrywiol, dan arweiniad y tîm creadigol Anthony Matsena, Angharad Elen a Marc Rees, yn cychwyn ar 23 Fedi 2024.

Ysbrydolwyd y naratif a byd y drioleg drwy gydweithrediad creadigol gyda GISDA, elusen sy’n cefnogi pobl ifanc, ac archwiliad o brofiadau bywyd go iawn pobl ifanc o Ogledd Orllewin Cymru sy’n cael eu tangynrychioli.

“Gan adeiladu ar enw da Cymru am theatr safle-benodol, prosesau o gyd-greu, dyfeisio ac adrodd straeon, edrychwn ymlaen at ddod â rhai o’n hartistiaid mwyaf cyffrous a phrofiadol ynghyd â’r genhedlaeth nesaf o storïwyr i ddarganfod beth yw a gall theatr Gymraeg a Chymreig fod heddiw,” meddai Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen.

SIOE GERDD NEWYDD SEIRIOL DAVIES

Eleni, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn croesawu sioe gerdd cwiar newydd gan Seiriol Davies.

Mae Corn Gwlad wedi ei ysbrydoli gan y bardd Prosser Rhys a ennillodd y Goron 100 mlynedd yn ôl efo'i gerdd sy’n sôn am ei berthynas rhywiol… efo dyn arall!

Disgwyliwch teleportiaeth, ysbrydion erchyll, cynfasau ciwt, disgleirlwch a fferats!

DATBLYGU SGILIAU CEFN LLWYFAN

Yn adeiladu ar lwyddiant y tri Cwmni Ifanc Frân Wen sydd eisoes mewn lle, bydd Cwmni Ifanc:Tech yn cael ei lansio dros yr wythnosau nesaf.

Bydd y cwmni newydd yma yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc weithio'n agos gydag arbenigwyr cefn llwyfan gorau'r diwydiant.

DOD Â STRYDOEDD BETHESDA YN FYW

Yn dilyn ymweliadau â Nefyn, Bala a Dolgellau yn y gorffennol bydd prosiect Fa’ma eleni yn dod â strydoedd Bethesda yn fyw gyda chelfyddyd gan wahodd cynulleidfaoedd i brofi eu cynefin drwy lygaid pobl ifanc. 

LLWYBRAU I GREU GWAITH NEWYDD

Nod cam nesaf ei rhaglen Datblygu Artistiaid yw meithrin talent a darparu llwybrau i artistiaid gyflwyno gwaith newydd beiddgar a deinamig i gynulleidfaoedd.

Y cyntaf o’r cyfleoedd hynny yw Fy Arddegau Radical, cyfle comisiynu i artistiaid sydd ag 20+ mlynedd o brofiad sydd am dorri’n rhydd o gyfyngiadau artistig a darganfod eu gwir hunain.

Bydd y bartneriaeth gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn parhau i ddatblygu artistiaid ifanc sy’n awyddus i greu profiadau ar gyfer gwyliau a gwaith awyr agored, gyda’r nod o greu cynhyrchiad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2026.

Mae Gofod ac Amser yn gynllun sy’n cynnig gofodau creadigol a mentora proffesiynol, MICS fydd rhwydwaith creadigol newydd i artistiaid llawrydd yng Ngogledd Cymru, a bydd digwyddiadau cymdeithasol Sgratsh yn cynnig llwyfan anffurfiol i artistiaid rannu eu gwaith mewn datblygiad.