Mae gennym ni newyddion MAWR rydym mor gyffrous i'w rannu!! Rydym yn falch iawn o gyhoeddi Ffrinj Queertawe Fringe!!

Ar ôl blwyddyn o weithdai creadigol ar gyfer cymuned cwîar Abertawe; Mae Ffrinj Queertawe yn dathlu hanes cwîar, y presennol a’r dyfodol ar draws ein dinas rhwng y 5ed a’r 8fed Rhagfyr.

Mae ein cyfranogwyr yn awduron, artistiaid, digrifwyr, dylunwyr, cerddorion a llawer mwy. Rhyngom, rydym wedi creu ystod amrywiol o ddigwyddiadau gyda chalon cwîar a ffocws creadigol, a fydd yn arddangos popeth rydym wedi bod yn gweithio arno dros y 12 mis diwethaf.

Gyda digwyddiadau i bob oed, dros bedwar diwrnod a chwe lleoliad, byddem wrth ein bodd petaech yn ymuno â ni ar gyfer Ffrinj Queertawe. Mae gennym wefan newydd sbon lle gallwch chi ddod o hyd i'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi (linc yn y bio), a gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ein tudalenau cymdeithasol dros y mis nesaf wrth i ni rannu llwyth o wybodaeth jiwsi.