Fforwm Gwyliau Cymru: Tŷ Pawb, Wrecsam, dydd Mawrth y 25ain o Fawrth 2025, 10.30yb – 4yp

Ymunwch â chyd-wylwyr Cymru am ddiwrnod o ddysgu, ysbrydoli a rhwydweithio:

  • 10:30am: Cofrestru a choffi: rhowch eich mewnbwn i sesiwn gymhorthfa'r ŵyl!
  • 10:45am:  Croeso – Fiona Goh, BAFA
  • 11am–11:30am:  ‘Festivals Forward’ – Bydd Rhiannon Davies o BOP Consulting yn amlinellu canlyniadau’r ymchwil cenedlaethol a gomisiynwyd gan BAFA ar ein sector. Bydd yn cynnig data allweddol ar gwmpas (scale), graddfa a gweithgareddau gwyliau celfyddydol, gan roi hwb i sgyrsiau am heriau, datrysiadau a chyfleoedd cyfredol.
  • 11:30am–12:30pm:  Lle a phartneriaethau – sut mae gwyliau yn ymateb i heriau a chyfleoedd eu lleoliad, a beth yw’r ffyrdd gorau o adeiladu partneriaethau lleol cryf? O dan gadeiryddiaeth Alice Briggs, bydd y drafodaeth banel hon yn cynnwys Krishnapriya Ramamoorthy o Paallam Arts; Betsan Moses o Eisteddfod Genedlaethol Cymru; Llio Maddocks o Urdd Gobaith Cymru; ac Alison Giles o Ŵyl Llanandras.
  • 12:30pm–1:30pm:  Cinio (heb ei gynnwys ond mae gan Tŷ Pawb amrywiaeth o opsiynau o ran bwyd ar y safle)
  • 1:30pm–2:30pm:  Gwyliau a’r Gymraeg – Bydd Fiona Goh o BAFA a Julia Cusworth yn cyflwyno ymchwil BAFA ar berthynas gwyliau â’r Gymraeg. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan sesiwn ryngweithiol gan Einir Sion o Gyngor Celfyddydau Cymru ac Iwan Williams (aelod o Gonsortiwm Celf Cymraeg) ar y ffyrdd gorau o ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn eich gŵyl.
  • 2:30pm–2:40pm:  Egwyl
  • 2:40pm–3:30pm: Safbwyntiau a chynwysoldeb cynulleidfa – Bydd Nancy Sheterline yn amlinellu’r gefnogaeth a’r adnoddau y mae’r Asiantaeth Cynulleidfa yn eu cynnig i wyliau. Bydd Rosanna Cant hefyd yn gofyn beth mae’n ei olygu wrth i strategaethau datblygu cynulleidfa gwyliau ganolbwyntio ar gynhwysiant
  • 3:30pm–4pm: Cymhorthfa’r Ŵyl – Bydd Fiona Goh o BAFA, Einir Sion a Suzanne Griffiths-Rees o Gyngor Celfyddydau Cymru yn cloi’r diwrnod gyda chyfle i’r rhai sy’n bresennol drafod unrhyw bynciau ychwanegol o’u dewis, ac i ymateb i ganfyddiadau’r diwrnod.

Mae tocynnau yn costio £15 i’r rhai sydd ddim yn aelodau o BAFA, ac am ddim i Aelodau BAFA. Bydd te a choffi yn cael eu darparu, ond dyw cinio ddim wedi’i gynnwys. Ymunwch â ni!  Byddwn yn darparu gwasanaeth cyfieithu Iaith Arwyddion Prydain a Chymraeg ar y diwrnod gyda Lingo cyf.  Pan fyddwch yn archebu eich tocyn, rhowch wybod i ni os byddwch yn defnyddio'r cyfieithiad hwn gan y bydd yn ein helpu gyda'n gwaith cynllunio – diolch. www.ticketsource.co.uk/bafa