Blancedi argyfwng ffoil gyda phatrymau carthenni traddodiadol Cymreig sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Roedd y detholwyr yn unfryd y dylid dyfarnu’r anrhydedd ynghyd â’r wobr ariannol lawn o £5,000 i Daniel Trivedy a gynigodd ei waith i’w ystyried ar gyfer yr Arddangosfa Agored am y tro cyntaf erioed eleni.

Yn ôl yr artist, mae’r gwaith yn ymateb i ddatganiad ‘cenedl noddfa’ Llywodraeth Cymru ynglŷn â helpu  ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

“Mae’r gwaith yn dod â dwy elfen weledol a’u chydgysylltiadau at ei gilydd. Mae’r elfen gyntaf yn cymryd patrwm nodedig carthenni Cymreig. Mae gan blancedi a’u patrymau gyfeiriadaeth luosog - yn gyffredinol: hiraeth, cynhesrwydd, plentyndod, traddodiad, cof, cysur ac etifeddiaeth. A’r ail elfen yw’r blanced argyfwng aur. Mewn gwrthgyferbyniad â’r elfen gyntaf mae’r blanced argyfwng wedi’i fasgynhyrchu, yn rhad ac at ddefnydd, wedi’i weld mewn ffotograffiaeth ddogfennol yn ymwneud â gwersylloedd ffoaduriaid neu fudwyr yn cyrraedd glannau Ewrop ac efallai, mae’n cyfeirio at boen a dioddefaint a rhyw fan arall ac ‘eraill’.”

Wedi cyfnod yn gweithio ym myd marchnata, newidiodd Daniel Trivedy gwys ei yrfa a throi at gelfyddyd gain. Bellach mae’r artist, sydd wedi ymgartrefu ger Castell-nedd, yn ddarlithydd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin.

“Rwyf wrth fy modd,” meddai, “rwy’n teimlo bod ennill Y Fedal Aur yn dilysu fy ngwaith ac mae hynny’n golygu llawer i mi - mae’n golygu nad oedd y penderfyniad i newid gyrfa ddeng mlynedd yn ôl yn ofer.”

“Credwn fod Daniel Trivedy yn llawn haeddu’r Fedal Aur am Gelfyddyd Gain,” meddai’r artist Manon Awst a wahoddwyd ynghyd â’r curadur annibynnol Bruce Haines a’r arbenigwraig ar grefft a dylunio Teleri Lloyd-Jones i ddethol yr Arddangosfa Agored a dyfarnu’r gwobrau.

 “Cawsom ein taro gan uniongyrchedd a symlrwydd y gweithiau celf hyn: cyfres o flancedi argyfwng ffoil thermol gyda phatrymau wedi’u printio arnynt â llaw ar ffurf patrymau’r carthenni gwlân Cymreig traddodiadol. Er mai natur dros dro, a thafladwy hyd yn oed, sydd i’r deunydd, mae i’r gweithiau celf arwyddocâd yn deillio o’r darlleniadau niferus posibl. Maent yn arwydd o oroesi mewn sefyllfa o argyfwng sy’n benodol Gymreig, a allai fod yn ecolegol, gwleidyddol, economaidd neu gymdeithasol."

Mae ‘Carthenni Argyfwng’ Daniel Trivedy i’w gweld yn Arddangosfa Agored Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Rhoddir Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain gan Seiri Rhyddion Gogledd Cymru a’r wobr o  £5,000 gan Oriel Ffin-y-Parc, Llanrwst.

Gwireddir Y Lle Celf mewn partneriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.