Cyhoeddodd Jones y ddawns y byddant yn creu ffilm ddawns wedi ei chynhyrchu yn broffesiynol gyda dawnswyr ifanc o Ganolbarth Cymru, fel rhan o’u prosiect Jones Bach, a gyda dawnswyr ifanc b/Byddar o Dde Cymru fel rhan o’u prosiect Quiet Beats; y ddau yn ganghennau o Gwmni Ifanc Jones y Ddawns. Bydd y ffilmiau byr yn cael eu creu gan y gwneuthurwyr ffilm Erin Draper a Sam Irving a byddant yn teithio trwy Gymru'r gwanwyn hwn gyda ffilm ddawns ryngweithiol a sioe fyw newydd y cwmni, Y Dewis.
Mae dau edefyn i Gwmni Ifanc Jones y Ddawns, a’r ddau yn anelu at greu cyfleoedd dawns eithriadol i’r rhai sydd â lleiaf o fynediad. Jones Bach ar gyfer pobl ifanc wledig ynysig ym Mhowys a Quiet Beats, yr edefyn ar gyfer pobl ifanc f/Fyddar yn Ne Cymru.
Bydd y gweithgareddau'r hanner tymor yma yn cael eu harwain gan yr Artistiaid Dawns blaengar o Gymru Eli Williams, Jake Nwogu ac Amber Howells ac yn cael eu cefnogi gan y perfformiwr BSL Sarah Adededji. Bydd y bobl ifanc yn creu’r ffilmiau yn ystod hanner tymor yn yr Hafren, yn y Drenewydd a’r Rubicon yng Nghaerdydd, gyda’r cynulleidfaoedd yn cael y cyfle i weld eu gwaith ar y sgrin fawr mewn lleoliadau lleol a chenedlaethol rhwng 19 Ebrill a 19 Mai.
“Bydd y prosiect ffilm dawns wythnos o hyd cydweithredol yma yn rhoi cyfle i aelodau ein cwmni ifanc i greu rhywbeth fydd yn crynhoi eu hunigolrwydd fel perfformwyr. Byddant yn cael bod yn awduron ar yr hyn a gynhyrchir i’w dathlu fel artistiaid ifanc creadigol. Mae bob amser yn llawenydd gweld y twf ym mhob aelod trwy gydol yr hanner tymor y byddwn yn ei dreulio gyda’n gilydd o ran eu hyder, creadigrwydd a’u gallu. Mae’r cyfle creadigol hwn yn gyfle mor werthfawr iddynt gyfoethogi eu taith fel dawnswyr ifanc mewn amgylchedd cefnogol gan gael dealltwriaeth o’r diwydiant proffesiynol.” - Eli Williams, Swyddog Dawns
Mae Jones Bach a Quiet Beats yn cyflwyno manteision llesiant trawsnewidiol dawns gyfoes i bobl ifanc sy’n ynysig yn wledig neu yn f/Fyddar rhwng 7 ac 16 oed, nad ydynt efallai wedi gallu profi cyfleoedd dawns wedi eu harwain yn broffesiynol fel hyn yn lleol. Mae pobl ifanc yn cael eu galluogi i archwilio eu creadigrwydd, profi rhyddid corfforol a datblygu hyder, dan arwainiad dawnswyr amlwg o Gymru.
“Mae fel bod yn rhan o gymuned, rydych yn teimlo fel teulu ac yn cael dod i adnabod ffrindiau newydd...mae’n wirioneddol greadigol” - Cyfranogwr 2023
“Mae’n rhoi lle sy’n rhoi rhyddid i mi...mae’n cynnig cyfleoedd, mae’n rhoi hwb ymlaen os ydym am wneud hyn yn y dyfodol pan fyddwn yn hŷn” -Cyfranogwr 2023
“Nid wyf yn cael llawer o gyfle i ddawnsio ac mae’n bwysig er mwyn i mi allu mynegi fy hun, mae’n gymaint o hwyl sefyll a dawnsio ychydig, hyd yn oed os nad ydych yn dda iawn am ei wneud...dwi ddim yn meddwl bod dim byd arall y byddwn yn gofyn amdano”-Cyfranogwr 2023
Bydd y ddau grŵp yn rhedeg trwy gydol gwyliau hanner tymor mis Chwefror o ddydd Llun 12 Chwefror hyd ddydd Gwener 16 Chwefror rhwng 9:30 a 11:30 (3:00 i rai hŷn) yn Theatr Hafren yn y Drenewydd neu’r Rubicon yng Nghaerdydd. Gall pobl ifanc ymuno am y diwrnod cyntaf yn unig a gweld sut y mae pethau’n mynd neu ymuno am yr wythnos gyfan. Bydd y ffilmio yn digwydd ar y dydd Iau a’r dydd Gwener. Mae lleoedd yn dal ar ôl, gall y rhai sydd â diddordeb mewn ymuno a bod yn rhan o greu’r ffilm newydd hon ymuno trwy wefan y cwmni.
Archebu ar gyfer Jones Bach trwy Wefan Hafren
Archebu ar gyfer Quiet Beats trwy wefan Jones y Ddawns
Wrth siarad am y prosiectau dywedodd Gwyn Emberton, Cyfarwyddwr Artistig a sefydlydd Jones y Ddawns “Mae fy uchelgais ar gyfer y ddau grŵp yma wedi ei wreiddio yn fy mhrofiad fy hun fel person ifanc yn tyfu yng Nghanolbarth Cymru. Doeddwn i ddim yn gwybod bod dawns yn bodoli hyd yn oed, ei fod yn ddewis i mi ac yn arbennig y gallech chi lunio gyrfa allan ohono. Nid yw hyn wedi newid llawer yn y blynyddoedd lawer ers hynny. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut y bydd y bobl ifanc yn datblygu dros y flwyddyn nesaf a pha mor bell y gall y ddau brosiect yma fynd yn y dyfodol ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a’n partneriaid am gredu yn y gwaith yma.”
Mae Jones y Ddawns yn cynnig 15 bwrsariaeth deithio rhwng y ddau grŵp i bobl ifanc y mae costau teithio yn mynd i fod yn rhwystr iddynt. Mae’r cyfle i archebu ar agor ar gyfer y ddwy raglen yn https://www.jonesthedance.com/youth-dance-initiatives. Os oes gennych ymholiadau cysylltwch â chynhyrchydd Jones y Ddawns, Kama Roberts trwy e-bost yn info_and_admin@jonesthedance.com.
Mae Jones y Ddawns am ddiolch i Gyngor Celfyddydau Cymru a’r National Grid am gefnogi’r gwaith.