Mae ffilm arbennig a grëwyd gan Ysgol Gynradd Aberteifi mewn gweithdy animeiddio yng Nghanolfan S4C Yr Egin wedi cael eu harddangos yn y Senedd a Gŵyl Ffilm ‘Trwy’r Lens’ Adran Addysg Cyngor Ceredigion y mis yma.
Daeth disgyblion Blwyddyn 4 yr ysgol i’r Egin i greu ffilm wedi’i hanimeiddio a oedd yn trin a thrafod y da a’r drwg o ddefnyddio plastig. Yn ystod y gweithdy cawsant gyfle i weithio fel rhan o grŵp i ddysgu am dechnegau animeddio, arbrofi drwy greu darnau o waith gwreiddiol ar lafar ac yn ddigidol, ac i ddefnyddio offer technegol o’r radd flaenaf. Cafodd y disgyblion hefyd sesiwn gynllunio yn rhan o’r gweithdy, lle wnaethant ddysgu amryw o sgiliau ym maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol o sut i greu bwrdd stori manwl, sgriptio a chymeriadu , gosod golau a set, ffilmio a recordio lleisiau a golygu.
Meddai Mari Roberts, Athrawes o Ysgol Gynradd Aberteifi:
“Roedd cyd-weithio gyda’r Egin, sefydliad creadigol o safon uchel, yn bleser pur ac ymateb y disgyblion yn anhygoel. Roedd egni ac arbenigedd tîm Yr Egin yn ymestyn o gyflwyno ac addysgu am y broses creadigol i ddealltwriaeth a phrofiad helaeth o ymwneud â dysgwyr o bob lefel yn golygu bod pawb wedi cael profiad gwerthfawr tu hwnt. Heb grant y Cyngor Celfyddydau ni fyddai’r profiad yma na’r cyfleon cyffrous pellach o ymweld â’r Senedd ac arddangos ffilm mewn gwyl animeiddio wedi bod yn bosibl. Rwy’n annog pob ysgol i drefnu gweithdy yn Yr Egin, bydd eich disgyblion a’ch ysgol yn elwa mewn cynifer o ffyrdd.”
Cafodd y gweithdy arbennig hwn ei gefnogi gan grant ‘Rhowch Gynnig Arni’ y Cyngor Celfyddydau Cymru, ac mae wedi arwain at gyfleoedd amrhisiadwy i’r disgyblion.
O ganlyniad i’r gwaith gwych a gynhyrchwyd gan y disgyblion, cawsant wahoddiad i arddangos eu ffilm mewn digwyddiad yn y Senedd lle wnaethant gyflwyno’r gwaith mewn cyflwyniad arbennig i’r Gweinidog Addysg, a’r Gweinidog dros Faterion Gwledig ac Amgylcheddol o’r Llywodraeth a chynrychiolwyr o’r ‘The Earth Shot Prize,’ ac o gyrff amgylcheddol eraill oedd yn bresennol.
Yn ogystal â hynny, derbyniodd yr ysgol wahoddiad hefyd i arddangos eu gwaith mewn Gŵyl ffilm arbennig ‘Trwy’r Lens’ a gynhelir gan Gyngor Sir Ceredigion yn Theatr y Mwldan. Unwaith yn rhagor roedd hwn yn gyfle i’r ysgol gyflwyno’i ffilm o flaen cynulleidfa.
Ychwanegodd Llinos Jones, Rheolwr Ymgysylltu Canolfan S4C Yr Egin:
“ Mae meithrin talent wrth wraidd cenhadaeth Yr Egin, ac rydym wrth ein boddau yn darparu gweithdai creadigol i ysgolion cynradd ac uwchradd. Yn ogystal â chael tro go iawn ar greu darn o waith creadigol a datblygu dealltwriaeth am yr elfennau angenrheidiol mae’r plant a phobl ifanc yn treulio amser mewn gofod Cymraeg sy’n arddangos y cyfleon niferus sydd ar gael y maes diwydiannau creadigol yn y rhanbarth. Cawsom modd i fyw yn cydweithio plant Ysgol Gynradd Aberteifi ac rwy mor falch i glywed am y cyfleon pellach sydd wedi dod iddynt yn sgil y gweithdy yma,”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476