Mae’r prosiectau newydd yn cynnwys dathliad Cellb o ffilm a cherddoriaeth o Gymru, yn ogystal ag iaith, er cof am Emyr Glyn Williams, a thymor sinema arbennig Theatr Gwaun i groesawu cymuned newydd o gefnogwyr ffilm i Abergwaun.
Yn sgil arian y Loteri Genedlaethol, sydd wedi ei ddirprwyo gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae Ffilm Cymru Wales yn darparu cymorth er mwyn galluogi arddangoswyr ffilm annibynnol i ddangos amrywiaeth eang o ffilmiau er mwyn diddanu ac ysbrydoli pobl ledled y wlad. Fel rhan o ymrwymiad y sefydliad i arloesi, i sicrhau cynhwysiant a chynaliadwyedd, mae eu Cronfa Arddangoswyr Ffilm yn annog sinemâu a gwyliau ffilm i ddatblygu eu gwaith mewn sector sy’n esblygu’n gyson, ac felly’n cysylltu eu cymunedau lleol trwy ffilm.
Yn y gyntaf o ddwy rownd ar gyfer 2024/25, mae Ffilm Cymru Wales wedi dyfarnu Cyllid Arddangoswr Ffilm i:
Gŵyl Ryngwladol Ffilmiau Arswyd Abertoir
Mae gwledd arswydus flynyddol Aberystwyth yn dychwelyd i aflonyddu ar Ganolfan Celfyddydau’r dref o 14eg – 17eg Tachwedd. Eleni, bydd Abertoir yn archwilio byd natur a’r amgylchedd yn y genre, gydag amrywiaeth dda o ffilmiau newydd a chlasurol, yn ogystal â ffilmiau byr, sgyrsiau a cherddoriaeth fyw. Er mwyn helpu i sicrhau bod yr ŵyl yn hygyrch i bawb, bydd Abertoir hefyd yn cynnal fersiwn ar-lein gyda chapsiynau SDH llawn.
Gŵyl Animeiddio Caerdydd
Mae rhaglen Gŵyl Animeiddio Caerdydd, sy’n cael ei chynnal gydol y flwyddyn, yn cyflwyno ystod eang o ffilmiau nodwedd cyffrous, ffilmiau wedi eu hanimeiddio, dangosiadau o ffilmiau byr, sesiynau holi ac ateb unigryw, a gweithgareddau dysgu anffurfiol i bobl yng Nghaerdydd, yn ogystal â theithio rhaglen o waith o Gymru i sinemâu gwledig ledled y wlad.
Cellb: Sgrin Emyr
Bydd arian Ffilm Cymru Wales yn cefnogi’r sinema nid-er-elw yma ym Mlaenau Ffestiniog i lansio eu prosiect newydd, Sgrin Emyr – sy’n dathu ffilm a cherddoriaeth o Gymru, yn ogystal â’r iaith Gymraeg, er cof am Emyr Glyn Williams. Nod y prosiect yw dod â’r gymuned leol at ei gilydd i rannu angerdd Emyr dros ddiwylliant Cymru, ac i ysbrydoli cenhedlaeth newydd i fynegi eu hunain drwy ddulliau creadigol.
Hijinx: Gŵyl Ffilm Undod
Bydd ail Gŵyl Ffilm Undod, gan y sefydliad theatr a ffilm cynhwysol Hijinx, yn hyrwyddo gwaith beiddgar, dewr ac o ansawdd uchel a’n cael ei arwain gan bobl anabl a/neu’n cynnwys pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth. Bydd yr ŵyl yn dangos ffilmiau byr, ac yn cynnal erthyglau nodwedd a sgyrsiau ar 8fed a 9fed Tachwedd. Bydd yr ŵyl yn hygyrch drwyddi draw, gyda dehongliad BSL, disgrifiad sain a chapsiynau byw.
Gŵyl Ffilm LGBTQ+ Gwobr Iris
Mae Gŵyl Ffilm Gwobr Iris wedi ymroi i rannu straeon LGBTQ+, ac yn dod â gwneuthurwyr ffilm o bedwar ban byd i Gaerdydd. Cynhelir y 18fed gŵyl rhwng 8fed a 13eg Hydref a bydd yn cynnwys llu o ffilmiau byr a ffilmiau nodwedd, yn ogystal â sgyrsiau, partïon a seremoni fawreddog Gwobr Iris.
Gŵyl Animeiddio Japaneaidd Kotatsu
Unwaith eto bydd Gŵyl Kotatsu yn arddangos y gwaith animeiddio diweddaraf o Siapan yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, a Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yr hydref hwn. Mae'r ŵyl yn dangos ffilmiau byr a ffilmiau nodwedd wedi eu hanimeiddio i gefnogwyr anime o bob oed, yn ogystal â chynnal marchnad Japaneaidd, cerddoriaeth fyw a sesiwn holi ac ateb ar-lein ar gyfer gwneuthurwyr ffilm.
Theatr Gwaun: Welcome Wednesdays
Bydd lleoliad sinema a chelfyddydau cymunedol Abergwaun yn cyflwyno Welcome Wednesdays – rhaglen newydd o ddangosiadau ffilm sydd wedi’u cynllunio’n benodol i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, i herio stereoteipiau ac i gynnig gwell amrywiaeth o’r math o ffilmiau y mae’r sinema yn eu dangos. Gan gynnig gostyngiad ar brisiau tocynnau ac ar luniaeth, yn ogysgal â darparu lleoliad croesawgar i drafod ac i sgwrsio, mae Theatr Gwaun yn gobeithio adeiladu cymuned newydd o bobl fydd yn caru ffilm.
Watch-Africa
Ers 2013, mae Watch-Africa wedi dathlu’r sinema gorau o Affrica yng Nghymru. Wedi derbyn cyllid gan Ffilm Cymru Wales yn 2022 i ymchwilio sut mae datblygu cynulleidfaoedd, mae Watch-Africa bellach yn canolbwyntio o’r newydd ar ddangos ffilmiau mewn mannau cymunedol ledled Caerdydd, gan weithio gyda’r bobl alltud lleol i guradu dangosiadau, arddangosfeydd a sgyrsiau, ym mis Mai a mis Mehefin 2025.
Yn gynharach eleni, bu Ffilm Cymru Wales yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ffilm Cymru i gynnig gweithdai datblygu busnes a hyfforddiant un-i-un penodol i sinemâu ac i wyliau ffilm, dan arweiniad Mustard Studio. Roedd y gwasanaeth amhrisiadwy hwn yn cefnogi arddangoswyr o Gymru i ganolbwyntio ar eu cynulleidfaoedd, ar ddenu sylw at eu brandiau, ac ar adeiladu busnesau cynaliadwy.
Mae Ffilm Cymru Wales hefyd yn cynnal sesiynau rhwydweithio ar-lein sy’n cynnig cyfle i arddangoswyr ffilm sgwrsio â’r Prif Weithredwr Lee Walters, gan rannu eu heriau a’u llwyddiannau, a thrafod syniadau ar gyfer cefnogi sector sinema Cymru. Cynhelir y cyntaf o'r digwyddiadau hyn ar 3ydd Hydref, a gall pobl gofrestru i fynychu yma.
Mae rownd nesaf Cyllid Arddangoswyr Ffilm, Ffilm Cymru Wales yn agor ar 9 Medi 2024, a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4ydd Tachwedd.