Mae AM yn falch o fod wedi cyd-gynhyrchu ffilm arbennig gyda Lucent Dreaming i ddathlu ‘Beyond/Tu Hwnt’, blodeugerdd newydd sydd yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae ‘Beyond/Tu Hwnt’ yn flodeugerdd ddwyieithog, wedi’i olygu gan Bethany Handley, Megan Angharad Hunter a Sioned Erin Hughes, yn cynnwys gwaith gan 31 o ysgrifennwyr Byddar ac Anabl.
Mae’r ffilm hon yn gyfle i ddysgu mwy am bwysigrwydd y gyfrol a’r broses o’i chreu, yn cynnwys sgyrsiau gyda’r golygyddion a’r cyfrannwyr Joshua Jones a Caitlin Tina Jones.
Dywedodd Sioned Erin Hughes:
“Roedd yna deimlad mor bwerus ac agos at yr asgwrn yn perthyn i'r broses o gasglu ynghyd y gweithiau gan feirdd ac awduron y flodeugerdd. Roedden nhw i gyd mor hael efo'u profiadau ac mor angerddol dros genhadaeth y flodeugerdd, sef i ddangos bod y gymuned Anabl yn gymuned hyfyw dros ben a bod gennym ni berlau mor werthfawr i'w rhannu efo'r byd – perlau oedd, yn aml, wedi deillio o'r teimlad o aralledd mewn cymdeithas. Roedd hi mor bwysig i ni, fel golygyddion wedyn, bod yna gofnod pellach o'r flodeugerdd yn cael ei rannu efo'r byd - a dyna lle rydan ni'n diolch o waelod calon i AM ac i Ffion am gamu i mewn a chynnig creu ffilm fer i hyrwyddo'r flodeugerdd ymhellach. Mae ein dyled ni'n enfawr.”
Cafodd y ffilm ei gyfarwyddo gan Ffion Pritchard, ei gynhyrchu gan AM a Lucent Dreaming, a’i ariannu drwy Gronfa Cynulleidfaoedd Newydd Cyngor Llyfrau Cymru. Darparwyd isdeitlau ac Iaith Arwyddo Prydeinig gan Helen Foulkes. Diolch i Nyth a Chanolfan Mileniwm Cymru am eu cefnogaeth.
Gwyliwch y ffilm a prynwch eich copi o ‘Beyond/Tu Hwnt’ ar AM nawr!