Mae fferyllydd a darlithydd prifysgol o Abertawe, sy’n treulio ei amser sbâr yn teithio’r wlad fel dawnsiwr proffesiynol, yn rhannu ei sgiliau a’i angerdd gyda chydweithwyr fel rhan o fenter Cyngor Celfyddydau Cymru i wella lles staff iechyd a gofal.

Mae Zi Hong Mok, sydd â 12 mlynedd o brofiad yn dawnsio ledled y DU – gan gynnwys yn y  National Theatre yn Llundain – wedi cyfrannu pedwar fideo i’r safle lles Cwtsh Creadigol, lle bydd yn annog staff y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru i archwilio rhai symudiadau dawns newydd.

Bwriad y wefan yw cefnogi lles gweithwyr iechyd a gofal yng Nghymru drwy eu hannog i gymryd ychydig o amser i ymdawelu, datgloi eu creadigrwydd a dod o hyd i gysur, gorffwys neu hwyl drwy'r celfyddydau.

“Mae'r gwaith mewn ysbytai wedi bod yn ddiddiwedd,” dywedodd. “Mae diffyg staffio
di-baid a llwyth gwaith cynyddol yn golygu bod ein staff gofal iechyd yn wynebu pwysau sylweddol sydd wedi effeithio ar ein hiechyd a’n lles.”

“Rydw i’n ffodus o fod wedi dod o hyd i ddawns fel rhywbeth rwy’n angerddol amdano ac yn gallu ei ddatblygu yng Nghymru. Drwy rannu profiadau yn fy narnau dawns digidol, gobeithio y bydd yn annog gweithwyr gofal iechyd i wneud y gorau o’r amser prin sydd ganddyn nhw, i weithio ar eu diddordebau a’r hyn sy’n agos at eu calonnau.”

Bydd gwaith Mok yn ymuno â dros 50 o ddarnau creadigol unigryw gan artistiaid ar y Cwtsh Creadigol – safle lles creadigol dwyieithog ar gyfer staff y GIG a gofal cymdeithasol, a gellir cael mynediad i’r safle am ddim. Yn ddiweddar, comisiynodd Cyngor Celfyddydau Cymru, 18 o ddarnau unigryw pellach ar gyfer y safle, gan gynnwys ei fideos dawns.

Lansiwyd y Cwtsh Creadigol yn sgil pandemig COVID-19, a’i gymeradwyo gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, gyda’r nod o ddefnyddio pwerau adfywiol y celfyddydau i roi hwb i les y rhai sy’n rhoi gofal, i ddatgloi eu creadigrwydd, neu eu helpu i geisio anghofio am straen bywyd bob dydd.

“Mae tystiolaeth fod gan y celfyddydau allu rhyfeddol i godi ein hysbryd a chefnogi ein lles,” meddai Sally Lewis, Rheolwr Rhaglen y Celfyddydau ac Iechyd ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Rydyn ni’n cael ein syfrdanu’n gyson gan amrywiaeth a gwreiddioldeb y syniadau y mae artistiaid yn eu datblygu er mwyn i weithwyr iechyd a gofal Cymru eu mwynhau. Mae’r Cwtsh Creadigol yn noddfa o greadigrwydd, sy’n cynnig seibiant, ysbrydoliaeth a ffordd o dreulio ychydig o amser haeddiannol oddi wrth yr heriau beunyddiol sy’n wynebu’r GIG a gofal cymdeithasol.

“Gyda phob cyfraniad artistig newydd ar gyfer y wefan, mae sector y celfyddydau yng Nghymru yn anfon neges glir o werthfawrogiad a gofal i’n gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol anhygoel.  “Mae’n ffordd bwysig o’n hatgoffa o bŵer trawsnewidiol y celfyddydau i roi persbectif newydd, ein cysylltu ag eraill, ac i ledaenu llawenydd.”

Mae’r artistiaid a gomisiynwyd o’r rownd ddiweddaraf yn cynnwys:

  • Abi Makepeace – Cyflwyniad i dechnegau lliwio botanegol, sy’n hwyl ac yn hygyrch
  • Chris Elliot – Siwrnai greadigol o ddarganfod drwy goetiroedd – ai cerflunio yw hyn?
  • Efa Blosse-Mason – Myfyrdod dywys yn y Gymraeg sydd yn gydweithrediad rhwng y darluniwr Efa Blosse-Mason a’r gantores Mali Haf
  • Eric Ngalle – Casgliad o bum stori fer, ysbrydoledig.
  • Gilly Booth - 'The Seaweed Project'
  • Hannah Barnes – Technegau canu syml i ymgysylltu ac ysbrydoli
  • Laura Thomas - Gwehyddu gwrthrychau a ddarganfuwyd ar arfordir De Cymru
  • Lucy Dickson –Tair techneg wahanol o wneud crochenwaith
  • Marian Haf Nixon – Sut i wneud colograff – ffordd o gynhyrchu printiau – drwy ddefnyddio pecynnau a llwyau
  • Nevanka Abril Trias Ludzik – Creu Poi a Jyglo Poi
  • Nigel Crowle – Rhannu awgrymiadau ysgrifennu creadigol wrth gerdded y ci
  • Pauline Down – Darganfod llawenydd canu
  • Sara Hartel – Fideo sy’n llywio staff y GIG a staff gofal drwy drawsnewid eu trefn ddyddiol yn gêm realiti amgen.
  • Shakeera Ahmun – Cyfres o symudiadau ysgafn i ryddhau tensiwn yn y corff
  • Stephanie Roberts – Canllaw ‘araf’ i ddetholiad o luniau gwych gan artistiaid enwog o Gymru yn Gymraeg
  • Toby Hay – Cerddoriaeth fyrfyfyr mewn lleoliadau awyr agored ym  Mynyddoedd Cambria
  • Dawns Fertigol - Kate Lawrence – Tair ffilm fer o ddawnsio’n yr awyr i'w gwylio ac i ryfeddu atyn nhw
  • Zi Hong Mok – Pedwar fideo dawns, gyda phob un yn paru gyda dawnsiwr proffesiynol gwahanol

Adnodd Cyngor Celfyddydau Cymru yw’r Cwtsh Creadigol, a grëwyd gydag artistiaid ledled Cymru. Mae'r adnodd yn bosibl gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru.

Gellir dod o hyd i holl gynnwys y Cwtsh Creadigol fan hyn – https://cwtshcreadigol.cymru/ 

Am fwy o wybodaeth, neu am gyfweliadau, cysylltwch â thîm y Cwtsh Creadigol yn culturalcwtsh@arts.wales

-       DIWEDD –

 

Nodiadau i olygyddion:

Ynglŷn â Chyngor Celfyddydau Cymru

Cyngor Celfyddydau Cymru yw corff cyhoeddus swyddogol y genedl ar gyfer cyllido a datblygu’r celfyddydau. Bob dydd, mae pobl ar draws Cymru yn mwynhau ac yn cymryd rhan yn y celfyddydau. Rydyn ni’n helpu i gefnogi a thyfu'r gweithgaredd hwn. Gwnawn hynny drwy ddefnyddio'r arian cyhoeddus sydd ar gael i ni gan Lywodraeth Cymru a thrwy ddosbarthu’r arian a dderbyniwn fel achos da o’r Loteri Genedlaethol. Drwy reoli a buddsoddi’r cronfeydd hyn mewn gweithgaredd creadigol, mae Cyngor y Celfyddydau yn cyfrannu at ansawdd bywyd pobl ac i les celfyddydol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.