Yn dilyn ein Fforwm yn 2018, gwahoddwyd y siaradwyr ac artistiaid o'r dydd i ymateb i'r sefyllfa bresennol – i weld beth sydd wedi newid, a beth y gellir ei wneud.

Mae Grug Muse yn fardd, traethodydd a golygydd o Ddyffryn Nantlle. Mae hi ar fin gorffen ei thesis ar Lenyddiaeth Teithio Cymru ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi'n gyd-olygydd yng nghylchgrawn a chyhoeddiadau Y Stamp, a chyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf, 'Ar Ddisberod' gan Cyhoeddiadau Barddas yn 2017. Yma, mae Grug yn rhannu peth o'i phrofiad o'r clo mawr a chysylltu ag eraill trwy ein ffenestri.

 

Mehefin

Mae’r sgrin yn rhewi, ac mae yna sŵn clician yn dod o rywle. Tu allan i fy ffenest, mae yna aderyn to wedi glanio ar silff y ffenest. Mae ei nyth o dan y bondo, wrth gornel uchaf y ffenest, ac mae’n defnyddio’r silff fel rhyw fath o lanfa, rhywle i eistedd a chael seibiant cyn plymio lawr i’r ardd oddi tanom ni.

Mae’r sgrin wedi dad-rewi, ac mae’r sgwrs yn parhau’n herciog dros y cyfrifiadur. Mae’r titw yn ymestyn ei adain ac yn crafu ei fol, cyn neidio i lawr, allan o fy ngolwg.

Ar y sgrin, rydw i yng nghanol trafodaeth ar gyfieithu barddoniaeth gyda beirdd o Gymru, Serbia, Croatia a Gwlad Groeg. Mae’r we yn mynd a dod, camra ambell un yn gwrthod gweithio, ac mae’r sŵn clician dal yna. Ond dyma ni, dyma’r byd newydd.

Trwy fy ffenest, dwi’n gweld cip o fy nghymydog, M— yn ei got law goch yn dod allan o ddrws ei dŷ. Mae’n galw heibio yn ddyddiol efo bocs o wyau dyddiau yma, am fod y caffi yn y dre oedd yn arfer eu derbyn nhw wedi cau dros dro, a’i adael o yn boddi mewn wyau ffresh. Mae’n debyg ein bod ni wedi gweld mwy ar M— yn y chwe mis diwethaf nac yda ni wedi ei wneud yn y pum mlynedd ar hugain blaenorol o fod yn gymdogion.

Mae rhywun yn gofyn cwestiwn am drosiad. Dwi’n ôl yn y parth rhithiol, rhywle rhwng Zagreb a Merthyr Tudful.

 

Awst

Ar y ddesg wrth fy ymyl mae coaster llechen efo’r geiriau ‘Clefar Clogs Covid-19’ wedi ei naddu ynddo fo. Souvenir o’r cwis zoom wythnosol, ddaeth yn ffenomenon ryngwladol yn ystod misoedd cynnar y clo. Souvenir, fel petai covid yn le i ymweld ag o, fel petai o drosodd.

Heddiw, dwi ddim yn siŵr lle mae fy ffon. Fe wnaeth hi redeg allan o fatri ychydig o ddyddiau yn ôl, ac fe wnes i ei rhoi hi rhywle o’r golwg, ac roedd hi’n fendigedig bod yn ddatgysylltiedig am ychydig o ddyddiau ar ôl bod mor eithafol o gysylltiedig yn y misoedd diwethaf, wastad ar gael, ar gyfer pob cyfarfod, ar gael, dim ffasiwn beth ag oriau gwaith, ar gael, neb o gwmpas, nunlle i fynd, ar gael.

Roeddwn i fod i dreulio mis Awst eleni yn Larissa, yng ngwlad Groeg fel rhan o breswyliad Ulysses Shelter. Yn lle hynny, dwi’n rhannu nodiadau efo cyfieithydd dros instagram, yn ymddangos yn yr ŵyl farddoniaeth Thessalaidd ar ffurf fideo, yn nofio yn y môr yn Dinas Dinlle, yn gwylio cymylau glaw yn llithro dros sir Fôn.

 

Medi

Mae hi wedi dod yn haf bach Mihangel, ac maen nhw wrthi efo’r cynhaeaf gwair, tractors mawrion yn gwasgu trwy fannau cyfyng, yn pow-powio’n drwm ar hyd y lonydd bychan, lampau llachar yn goleuo’r mynydd yn y nos.

Mae’r ardal hon yn cael ei hystyried yn le pell, ond pell o le? O Gaerdydd? Yn sicir. Mae Dulyn yn agosach, ac yn haws i’w gyrraedd. Tae hi’n dod i hynny, mi fedra i weld bryniau Wicklow o fan hyn ar noson glir, ac mae signal RTE yn gryfach nac un Radio Cymru yn hen ddigon aml. O ddringo’r mynyddoedd, mae gen i siawns o weld goleuadau Blackpool, ac Ynys Manaw. Mi fedra i fod yn siarad gyda fy nghefnder yn Alaska, gyda fy ffrind yn Guatemala, gyda beirdd yng Nghroatia, dim ond i fi fynd nol i’r tŷ, at y wifi.

Dwi’n gwylio’r gwenoliaid yn hedfan heibio talcen y tŷ, plymio heibio’r polyn teligraff, troi am eu holau mewn cylchdro llydan a gwibio’n ôl at y perthi. Mi fydda nhw’n gadael yn fuan, yn teithio tua’r de. Mae tractor arall yn mynd yn drystiog heibio’r tŷ. Ydi, mae’r ardal hon yn le pell.  

 

Adar

Pwy sy’n siarad dros Gymru?

Mi a glywais fod yr hedydd

wedi marw ar y mynydd

ac er y gwn mai gwir y geiriau

does dim sôn am wŷr nac arfau

nac am y gwenwyn yn y caeau

na’r afonydd llawn cemegau

 

Ac mae 'na lai o adar yn yr ardd eleni,

llai heddiw na ddoe, mwy ddoe na fydd fory.

 

Ac er mod innau’n blentyn y naw degau,

slot meithrin, tamagochi,

tsiocled freddo am 10p,

‘di tyfu fyny’n chware dryga

ar y comin, nai gyfaddef

o ni’n ddau ddeg pedwar cyn gweld y gog,

ac yn y brifysgol cyn gweld draenog, yn y cnawd.

 

A ma’ na lai o adar yn yr ardd eleni,

llai heddiw na ddoe, mwy ddoe na fydd fory.

 

Ac ar ben moel Tryfan, brain a drain

a gwynt yn cribo’r gwallt yn ôl,

mae’r chwarel yn hafn ddofn

rhyngof fi, a’r Wyddfa.

Ac wrth i’r gwynt chwipio’r llais o fy ngwddw

welai ddim ond brain, a defaid.

Dwi’n fyd, yn deud dim byd,

yn clywed dim byd ond brain, a defaid.

 

A tasa Branwen yn fyw heddiw, yn gyrru

drudwy yn gennad, fysa’r drudwy yn cyrraedd?

A’i niferoedd wedi haneru

ers mil-naw-naw-deg-tri, pryd ges i ‘ngeni,

fysa’r ddrudwen fach yn nabod

gwlad o redfeydd awyrennau, priffyrdd,

a choedwigoedd pinwydd marwaidd?

 

Ac mae 'na lai o adar yn yr ardd eleni,

llai heddiw na ddoe, mwy ddoe na fydd fory.