Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym
“Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.”
Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgil y menopos.
Chwerthin, harthio, edliw a cholli deigryn – mi gewch chi’r cyfan.
Ymunwch â ni ar y daith arbennig hon, ac mae croeso i bawb, achos nid mater i ferched yn unig ydi’r menopos.
Meddai Iola: “Da ni’n dwy wedi dysgu bod chwerthin yn ffordd o lacio’r poen a’r ofn. Dyma gewch chi yn y sioe ac yn y sgwrs gobeithio!”
Ac i goroni’r cyfan bydd Mirsi hefyd yn ymuno â ni mewn sawl lleoliad ar hyd y daith i gynnal siop ‘pop up’ – felly dyma gyfle gwych i chi gael noson allan o chwerthin ymysg ffrindiau, i rannu profiadau ac i wneud mymryn o siopa.
Bydd hefyd cyfle i gymryd rhan mewn sgwrs greadigol anffuriol wedi ei arwain gan MWY mewn rhai o’r lleoliadau.
Beth allai fod yn well?
Canllaw oed 14+. Defnyddir iaith gref.
???? – Carys Gwilym
?????????? – Iola Ynyr
??????? – Osian Gwynedd
?????????? – Llywelyn Roberts
?????????? – Lois Prys
Manylion y daith a tocynnau - https://www.theatrbaracaws.co.uk/cy/sioeau/ffenast-siop-2024-2024-04-18