Mae Ffair Grefft Gyfoes Gogledd Cymru yn dychwelyd i Fostyn ddydd Sadwrn y 4ydd o Hydref 2025, 10.30yb - 4.30yp.
Gyda mynediad am ddim i ymwelwyr, mae’n gyfle gwych i brynu crefftau hardd a fforddiadwy yn uniongyrchol gan dros 30 o artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr sy’n cymryd rhan.
Siopwch grefftau a chelf gyfoes syfrdanol – o emwaith, cerameg, tecstilau, printiau a basgedwaith a chymaint mwy. Dyma’r lle perffaith i gefnogi busnesau bach a darganfod rhywbeth gwirioneddol arbennig.
Bydd myfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr o’r radd BA (Anrh) Celf Gymhwysol yn Ysgol Gelf Prifysgol Wrecsam yn arddangos ac yn gwerthu eu gwaith yn uniongyrchol yn ein Gofod Prosiect ar y diwrnod.
Bydd ein Siop ar agor fel arfer, a bydd ein caffi hefyd ar agor drwy’r dydd ar gyfer coffi wedi’i rostio’n lleol, cacennau blasus a phrydau ysgafn. Gan wneud ein Ffair Grefft yn lle perffaith i brynu crefft gyfoes fforddiadwy, cael coffi a chael hwyl!