• Wedi’i hysgrifennu gan Katie Elin-Salt gyda chyfieithiad i’r Gymraeg gan Branwen Davies, a’i chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman Joe Murphy, mae’r sioe gerdd newydd sbon hon yn dathlu gwaith tîm a phwysigrwydd gofyn am help pan fyddwch ei angen
  • Mae Hansel a Gretel wedi’i anelu at blant 3-6 oed a’u teuluoedd, ac mae’n cael ei pherfformio yn Theatr y Sherman (27 Tachwedd 2023 - 6 Ionawr 2024) yn dilyn taith ym mis Tachwedd
  • Caiff Peter Pan, cyd-gynhyrchiad y cwmni gyda Theatr Iolo i blant hŷn, hefyd ei berfformio yn Theatr y Sherman
  • Mae'r ddwy sioe Nadolig yn cloi hanner canmlwyddiant y cwmni

Mae cynhyrchiad Nadolig pen-blwydd Theatr y Sherman yn 50, Hansel a Gretel, yn cychwyn ar ei daith o amgylch de Cymru yr wythnos nesaf, cyn dychwelyd am rediad o bum wythnos yn adeilad y theatr yng Nghaerdydd.

Yn llawn caneuon a chwerthin, mae’r fersiwn newydd yma yn stori y mae pawb yn ei garu, ond gyda thro ychwanegol blasus a chwareus, wedi’i pherfformio mewn awyrgylch anffurfiol ar wahân; Hansel a Gretel yn y Gymraeg a Hansel and Gretel yn Saesneg.

Mae hi’n Noswyl Nadolig ond mae rhywbeth o’i le yn y goedwig. Mae coed pinwydd yn troi’n goed Losin. Mae’r afon yn gorlifo gyda thriog. Gwaith Sioned Siocled yw’r cyfan sy’n troi bob dim yn losin!

Dim ond Hansel a Gretel sy’n sefyll yn ei ffordd. Ânt ymaith ar antur anhygoel i achub y goedwig. Ar eu taith byddant yn cyfarfod ffrindiau newydd hudol megis Spencer y Wiwer a Trefor y Goeden. Byddant hefyd yn dysgu mai holi am gymorth yw’r peth dewraf y gall unrhywun ei wneud.

Dywedodd Joe Murphy, sydd wedi cyfarwyddo dwy sioe Nadolig lwyddiannus i blant hŷn (Tales of the Brothers Grimm ac A Christmas Carol ) ac sydd bellach yn troi ei law at sioe i blant iau: “Mewn sawl ffordd mae cynhyrchiad Nadolig dwyieithog Theatr y Sherman i rai 3 – 6 oed yn un o'r sioeau pwysicaf rydyn ni'n ei chynhyrchu bob blwyddyn. Bob Nadolig, mae miloedd o blant yn cael eu blas cyntaf o hud y theatr gyda’r sioe yn y Stiwdio.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr felly at ddod â sioe hyfryd Katie yn fyw ac yn ymwybodol ei fod yn gyfrifoldeb gwirioneddol i roi profiad i blant a fydd yn eu swyno, profiad a fydd yn aros gyda nhw am flynyddoedd lawer.”

Perfformir Hansel a Gretel gan gast o dri actor-gerddor; Mari Fflur, James Ifan ac Elin Phillips.

Yn ymuno â Joe Murphy yn y tîm creadigol mae’r Dylunydd Set a Gwisgoedd Hayley Grindle, y Cyfansoddwr a’r Cyfarwyddwr Cerdd Lynwen Haf Roberts, y Cynllunydd Goleuo Ceri James ac Alice Eklund fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol, rhan o fenter Cyfarwyddwr Iaith Gymraeg dan Hyfforddiant Theatr y Sherman.

Bydd y sioe yn teithio i Gasnewydd, Coed Duon, Garth Olwg, Ystradynglais, Cas-gwent, Aberhonddu, Pen-y-graig a'r Barri cyn rhediad olaf y Nadolig o berfformiadau yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd.

Dros yr 50 mlynedd diwethaf, mae cynyrchiadau Nadolig a wnaed yn Theatr y Sherman wedi cyflwyno cenedlaethau o blant o bob rhan o dde Cymru i hud y theatr – bob amser â thro. Yn ei flwyddyn pen-blwydd yn 50 oed, mae’r cwmni’n mynd â Hansel a Gretel ar daith tra bod ei gyd-gynhyrchiad gyda Theatr Iolo, Peter Pan, yn cael ei berfformio yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd (27 Tachwedd 2023 – 6 Ionawr 2024).

 

Manylion Y Daith

Theatr y Sherman yn cyflwyno

HANSEL A GRETEL / HANSEL & GRETEL

Maw 7 2023 – Glan yr Afon, Casnewydd
Mer 8 / Iau 9 2023 – Sefydliad y Glowyr Coed Duon, Coed Duon
Gwe 10 / Sad 11 2023 – Canolfan Garth Olwg, Pentre’r Eglwys
Llun 13 2023 – Y Neuadd Les, Ystradgynlais
Maw 14 / Gwe 17 2023 – The Drill Hall, Cas-gwent
Mer 15 2023 – Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
Llun 20 / Maw 21 2023 – Canolfan Soar, Penygraig
Mer 22 / Iau 23 2023 – Canolfan y Celfyddydau Memo, Y Barri
Llun 27 Tach 2023 – Sad 6 Ion 2024 – Theatr y Sherman, Caerdydd

Argymhellir ar gyfer plant 3-6 oed a'u teuluoedd

Hyd y perfformiad: 45 munud