Yn yr amseroedd anodd a digynsail hyn, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cydnabod yr effeithiau personol a phroffesiynol difrifol ar artistiaid, ymarferwyr a sefydliadau, gan gynnwys ysgolion, sy'n deillio o Covid-19 wrth iddo ymledu. Dyma achub ar y cyfle hwn felly i gynnig rhywfaint o gyfarwyddyd.

Ysgolion Creadigol Arweiniol

Yn dilyn cyhoeddiad 18 Mawrth bod pob ysgol yng Nghymru i gau o ddydd Gwener 20 Mawrth ymlaen, rydym yn gofyn ichi dalu'r Ymarferwyr Creadigol am yr holl sesiynau Ysgolion Creadigol Arweiniol arfaethedig waeth beth fo unrhyw sesiynau sydd wedi'u canslo oherwydd Covid-19.

Rydym yn fodlon i'n cyllid gael ei ddefnyddio i dalu'r ffioedd am waith nad yw efallai wedi'i gyflawni. Mae ein Ymarferwyr Creadigol yn hunangyflogedig ac o ganlyniad mae'n anochel y bydd y firws hwn yn effeithio ar eu bywoliaeth, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Rydym am eu cefnogi cymaint â phosibl.

Ar gyfer yr ysgolion hynny yn y cam gwerthuso, rydym yn gofyn i chi a'r Asiantau Creadigol gwblhau'r darn hwn o waith hyd eithaf eich gallu, er ein bod yn sylweddoli y gallai fod angen cynnal llawer o'r sgyrsiau trwy fideo-gynadledda a thrwy rannu ffeiliau'n ddigidol. Cysylltwch ag aelod o'r tîm rhanbarthol os hoffech gael cyngor pellach ar hyn.

Rydym yn gwybod y gallai hyn fod yn ddiweddglo siomedig i'ch prosiect(au) ond pan fydd y sefyllfa'n gwella, byddwn yn archwilio'r posibilrwydd o ddod ag ysgolion ynghyd i gael rhannu a dathlu'r gwaith a wneir ar y cyd. Byddwn hefyd yn eich gwahodd i fod yn rhan o ail gam y prosiect a'r bennod nesaf yn ein taith dysgu creadigol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â'ch tîm rhanbarthol. Pob dymuniad da a diolch am eich cefnogaeth a'ch ymrwymiad,

Arweiniad ar gyfer Asiantwyr Creadigol

Yn dilyn cyhoeddiad 18 Mawrth bod pob ysgol yng Nghymru i gau o ddydd Gwener 20 Mawrth ymlaen, rydym wedi ysgrifennu at ysgolion i ofyn iddynt dalu'r Ymarferwyr Creadigol am yr holl sesiynau Ysgolion Creadigol Arweiniol a gynlluniwyd, yn cynnwys unrhyw sesiynau sydd wedi'u canslo oherwydd Covid-19. Byddwn hefyd yn sicrhau bod ein Hasiantau Creadigol yn cael eu talu am eu hamser dan gytundeb.

Rydym yn fodlon i'n cyllid gael ei ddefnyddio i dalu'r ffioedd am waith nad yw efallai wedi'i gyflawni. Mae ein Ymarferwyr Creadigol a’n Hasiantwyr yn hunangyflogedig ac o ganlyniad mae'n anochel y bydd y firws hwn yn effeithio ar eu bywoliaeth, naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Rydym am eu cefnogi cymaint â phosibl.

Ar gyfer y rhai ohonoch sydd yn agos at y cam gwerthuso, rydym yn gofyn ichi gwblhau hwnnw hyd eithaf eich gallu, er ein bod yn sylweddoli y gallai fod angen cynnal llawer o'r sgyrsiau trwy fideo-gynadledda a thrwy rannu ffeiliau'n ddigidol. Cysylltwch ag aelod o'r tîm rhanbarthol os hoffech gael cyngor pellach ar hyn.

Rydym yn gwybod y gallai hyn fod yn ddiweddglo siomedig i'ch prosiect(au) ond pan fydd y sefyllfa'n gwella, byddwn yn archwilio'r posibilrwydd o ddod â'r ysgolion ynghyd ar gyfer digwyddiad rhannu a dathlu ar y cyd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, peidiwch petruso cyn cysylltu â'ch tîm rhanbarthol. Pob dymuniad da a diolch am eich cefnogaeth a'ch ymrwymiad,

Canllawiau ar gyfer Cydweithio Creadigol

Yn yr amseroedd anodd a digynsail hyn, mae llawer o'r rhaglenni celfyddydol sy'n cael eu rhedeg gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn gorfod newid. Mae hyn yn cynnwys ein cynllun Cydweithio Creadigol.Yn dilyn cyhoeddiad 18 Mawrth bod pob ysgol yng Nghymru i gau o ddydd Gwener 20 Mawrth ymlaen, rydym yn ysgrifennu i ofyn i Artistiaid / Ymarferwyr Creadigol gael eu talu am bob sesiwn a gynlluniwyd, waeth beth fo unrhyw sesiynau wedi'u canslo oherwydd Covid-19.

Rydym yn gofyn ichi gwblhau'r ffurflen gwerthuso hyd eithaf eich gallu, er ein bod yn sylweddoli y gallai fod angen cynnal llawer o'r sgyrsiau trwy fideo-gynadledda a thrwy rannu ffeiliau'n ddigidol. Cysylltwch ag aelod o'r tîm os hoffech gael cyngor pellach ar hyn.

Rydym yn gwybod y gallai hyn fod yn ddiweddglo siomedig i'ch prosiect ond mae'r rhain yn amseroedd digynsail na allai neb fod wedi'u rhagweld.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni ar dysgu.creadigol@celf.cymru 

Cronfa Ewch i Weld

Yn yr amseroedd anodd a digynsail hyn, mae llawer o'r rhaglenni celfyddydol sy'n cael eu rhedeg gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn gorfod newid. Mae hyn yn cynnwys ein cynllun Ewch i Weld.

Yn dilyn cyhoeddiad 18 Mawrth bod pob ysgol yng Nghymru i gau o ddydd Gwener 20 Mawrth ymlaen, rydym wedi penderfynu gohirio'r gronfa Ewch i Weld nes bydd rhybudd pellach. Felly, ni fyddwn yn derbyn unrhyw geisiadau newydd i'r gronfa ar hyn o bryd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y gronfa Ewch i Weld, cysylltwch a dysgu.creadigol@celf.cymru