Gwahoddir rhanddeiliaid i ddigwyddiad mewn person ac ar-lein gyda Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i drafod Dyfodol Diwylliant yng Nghymru. Cynhelir y digwyddiad yn Swyddfa Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn Wrecsam.

Ymuno arlein: https://www.eventbrite.co.uk/e/663037983457

Ymuno mewn person: https://www.eventbrite.co.uk/e/663054522927

Byddwn yn trafod…

Beth ddylai ein blaenoriaethau fod yn y dyfodol? Sut mae angen i’n gwasanaethau cyhoeddus newid, er mwyn galluogi a grymuso gwneuthurwyr newid lleol yn well? A sut gall tîm Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol gefnogi hyn i ddigwydd?

Trwy gyfres o gyflwyniadau difyr gan gynrychiolwyr y sector, byddwn yn trafod yr heriau a’r cyfleoedd i ddyfodol diwylliant yng Nghymru. 

Bydd eich cyfraniadau a’ch syniadau yn rhan o Ffocws Ein Dyfodol – ein rhaglen gwaith i glywed gan gymunedau a sefydliadau ledled Cymru ar flaenoriaethau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Byddwn hefyd yn defnyddio’r sesiwn i lunio ein Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol statudol nesaf yn 2025. 

Cofrestrwch i dderbyn manylion pellach.