Dyfarnwyd £340,000 mewn cyllid arloesi i dri ar ddeg o brosiectau i gefnogi syniadau sy'n gwella iechyd a lles pobl trwy weithgareddau creadigol.
Mae'r prosiectau, ym mhob rhan o Gymru, yn rhan o HARP - Iechyd, Celfyddydau, Ymchwil, Pobl - partneriaeth arloesi ac ymchwil rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta). Bydd pob prosiect yn derbyn cyllid a chefnogaeth strwythuredig gan yr holl bartneriaid, gan gynnwys Rhwydwaith Iechyd a Lles Celfyddydau Cymru a thîm Canlyniadau Pŵer Pobl Nesta, tan 2022.
Nod y prosiectau yw cyrraedd pobl a allai fod yn profi heriau yn eu hiechyd a'u lles, boed iechyd meddwl, byw gyda dementia, profi arwahanrwydd neu wahaniaethu. Trwy HARP, bydd y prosiectau hefyd yn ystyried sut y gall gweithgareddau creadigol sy'n cefnogi iechyd a lles ddod yn fwy cynaliadwy yn ariannol ac chynhwysol, a sut y gellir eu hehangu.
Ymhlith y prosiectau a gyhoeddwyd heddiw mae:
- Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) yn cefnogi gweithwyr gofal iechyd Du yn ystod y pandemig i adrodd eu stori nhw am y pandemig.
- Bydd Theatr Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru ynghyd â phartneriaid eraill yn cyflwyno gweithdai creadigol Cymraeg i grwpiau o bobl sydd â dibyniaeth ar alcohol.
- Rhaglen yn sir Benfro fydd yn meithrin gwydnwch unigolion a chymunedau ynysig drwy Gôr o Bell, Theatr Soffa a Shared Worlds (Barddoniaeth).
- Rhaglen ddawns newydd wedi'i chyd-gynllunio ar gyfer pobl hŷn sy'n byw ym Mhowys gyda heriau penodol dementia a phroblemau iechyd meddwl, sy'n ei chael hi'n anodd cadw'n egnïol a chynnal cysylltedd cymdeithasol.
Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Rydw i wrth fy modd â’r uchelgais sydd yn y prosiectau HARP. Mae dealltwriaeth eang o werth enfawr y celfyddydau wrth hyrwyddo iechyd meddwl a chorfforol - ac mae'r pandemig wedi rhoi tystiolaeth gyfoethog a phwerus inni o'r gwerth hwnnw. Mae’n gwaith gyda’n partneriaid yn Y Lab a Chydffederasiwn GIG Cymru yn dangos i Gyngor Celfyddydau Cymru bod angen parhau i arloesi wrth ymateb i anghenion iechyd, ac hefyd ymchwilio i gwestiynau hanfodol ynglyn â chynyddu darpariaeth. Yn anad dim, gwyddom fod gan ymyriadau iechyd allu unigryw i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau creulon a ddatgelir, ac a waethygir gan y pandemig. Bydd y prosiectau hyn yn creu posibiliadau newydd er mwyn gwella lles pobl Cymru."
Dywedodd Rosie Dow, Rheolwr Rhaglen HARP yn Y Lab:
“Mae hyn yn teimlo fel eiliad mor bwysig i’r celfyddydau ac iechyd yng Nghymru. Wrth i ni i gyd barhau i ymdopi ag effeithiau'r pandemig mae'n ymddangos yn bwysicach nag erioed i weithio gyda'n gilydd mewn partneriaethau a rhwydweithiau. Bydd HARP yn creu lle i gydweithio ar draws iechyd, gofal a'r celfyddydau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymdrin â'r heriau iechyd a gofal rydyn ni i gyd yn eu hwynebu. Rydyn ni hefyd am sicrhau bod modd cynnal buddion cadarnhaol yr holl arloesi creadigol sydd wedi digwydd ym maes iechyd a gofal dros y flwyddyn ddiwethaf a'u cyflwyno i fwy o bobl yng Nghymru."
Nesta Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cydffederasiwn GIG Cymru: “Mae Cydffederasiwn GIG Cymru yn croesawu’n gynnes y cyllid a gyhoeddwyd i gefnogi’r prosiectau celfyddydau ac iechyd gwych ledled Cymru a fydd yn helpu i wella iechyd a lles pobl trwy weithgaredd creadigol. Dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19, rydyn ni wedi gweld sut y gall y celfyddydau gryfhau iechyd a lles corfforol a meddyliol cleifion, staff gofal iechyd a'r cyhoedd yn ehangach a bydd y mentrau hyn yn rhan greiddiol o'n hymagwedd ataliol at iechyd a gofal yng Nghymru. Mae sefydliadau'r GIG ar draws Cymru'n gweld gwerth gweithgaredd celfyddydol ac yn cofleidio'r gwaith hwn gyda brwdfrydedd cynyddol. Trwy'r cyllid hwn gobeithio y gallwn ddatblygu ac ymgorffori'r celfyddydau mewn ymarfer iechyd, gan gynyddu arbenigedd a chyrraedd mwy o bobl."
Ewch i wefan Y Lab i rhestr lawn o brosiectau a gyllidir trwy HARP
HARP
Mae HARP - Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil a Phobl - yn bartneriaeth arloesi ac ymchwil rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta) i ystyried sut y gallwn ni gynhyrchu, tyfu a dysgu am ddatblygiadau arloesol creadigol ac effeithiol sy’n cefnogi iechyd a lles pobl Cymru.
Rydyn ni’n gwybod y gall effaith y celfyddydau ar ein hiechyd a'n lles fod yn fuddiol iawn. Rydyn ni’n gwybod hefyd, fodd bynnag, y gall llunio ac ymgorffori gweithgareddau creadigol er iechyd a lles fod yn broses gymhleth ac ansicr, yn arbennig yn ystod pandemig Covid-19 a thu hwnt. Mae HARP yn ceisio dysgu rhagor am sut y gallwn ni ymateb i'r cyfleoedd a’r anawsterau hynny yng Nghymru trwy gyfuniad o gynnig grantiau, meithrin rhwydweithiau, hyfforddi ac ymchwil er lles arloeswyr iechyd a’r celfyddydau. Rydyn ni’n gwneud hyn gyda chymorth tîm Canlyniadau Grym Pobl Nesta, Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cymru a Chydffederasiwn GIG Cymru.
Y Lab
Y Lab yw canolfan arloesedd gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Fe’i sefydlwyd yn 2015, ac mae’n bartneriaeth rhwng Nesta, sefydliad arloesi a Phrifysgol Caerdydd. Rydym yn ceisio cefnogi arloeswyr yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gyda chyllid, arbenigedd ac arweiniad i brofi eu syniadau. Rydyn ni'n ymchwilio sut a pham fod arloesi’n digwydd mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Cyngor Celfyddydau Cymru
Cyngor Celfyddydau Cymru yw corff cyhoeddus swyddogol y wlad ar gyfer ariannu a datblygu’r celfyddydau. Bob dydd, mae pobl ledled Cymru yn mwynhau’r celfyddydau ac yn cymryd rhan ynddynt. Rydyn ni'n helpu i gefnogi ac i dyfu’r gweithgarwch hwn. Fe wnawn ni hyn trwy ddefnyddio'r arian cyhoeddus sydd ar gael i ni gan Lywodraeth Cymru a thrwy ddosbarthu'r arian rydym yn ei dderbyn fel achos da gan y Loteri Genedlaethol. Trwy reoli a buddsoddi’r cyllid hwn mewn gweithgarwch creadigol, mae Cyngor y Celfyddydau’n cyfrannu at ansawdd bywyd pobl ac at les diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.
Cydffederasiwn GIG Cymru
Cydffederasiwn GIG Cymru yw'r corff aelodaeth cenedlaethol sy'n cynrychioli'r 11 sefydliad sy'n rhan o'r GIG yng Nghymru; y saith Bwrdd Iechyd Lleol, y tair Ymddiriedolaeth GIG ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Manylion cyswllt:
Rheolwr Ymgysylltu a Chyfathrebu
+44 (0) 7511456729