Mae’r misoedd diwethaf hyn wedi bod yn rhai caled iawn i’r celfyddydau yng Nghymru ac Iwerddon, felly mae’n bleser gan brosiect Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw gyhoeddi bod deuddeg comisiwn gwerth £5,000 yr un wedi’u dyfarnu i artistiaid sy’n gweithio yn y ddwy wlad.

Bydd y comisiynau hyn gan Creative Connections yn gyfrifol am ddatblygu gwaith a fydd yn adlewyrchu treftadaeth ddiwylliannol a hanesyddol cymunedau’r porthladdoedd yng nghyffiniau Caergybi, Abergwaun, Doc Penfro, Rosslare a Phorthladd Dulyn, yn ogystal â’r teithio a fu o’r naill le i’r llall dros Fôr Iwerddon. Bydd y gwaith a gynhyrchir yn cynnwys ystod eang o gyfryngau, o sain a ffilm i gerflunwaith, cardiau post, barddoniaeth, ffotograffiaeth a llên natur. Datblygir pob comisiwn mewn cydweithrediad agos â chymunedau’r trefi dan sylw ac fe’i cefnogir gan waith ehangach Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw.

Y sawl sydd wedi derbyn y comisiynau yw: Rua Barron a Hannah Power, David Begley, Zillah Bowes, Gillian Brownson, Kathy D’Arcy, Jon Gower, Julie Merriman, Peter Murphy, Augustine O’Donoghue, Marged Pendrell, Peter Stevenson a Jacob Whittaker, a Jaqueline Yallop. Ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn â’u prosiectau ar ein gwefan: https://portspastpresent.eu/

Nod Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw yw ymchwilio i dreftadaeth y porthladdoedd hyn ac i’r teithiau ar draws Môr Iwerddon, a thrwy hynny feithrin cyd-ddealltwriaeth rhwng y cymunedau. Byddai’n dda gan dîm y prosiect a’r artistiaid glywed gan unrhyw un sydd â stori i’w rhannu. Gallwch anfon neges i ports@ucc.ie a byddwn yn cysylltu â chi.

Menter ar y cyd rhwng Coleg Prifysgol Corc a chyngor sir Loch Garman (Wexford) yn Iwerddon ac, yng Nghymru, Prifysgol Aberystwyth a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yw ‘Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw: Cysylltiadau Diwylliannol rhwng Iwerddon a Chymru’.

Arweinir cynllun Cysylltiadau Creadigol gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a  chyngor sir Loch Garmon. Os yw aelod o’r wasg am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r comisiynau a ddyfarnwyd, gallwch gysylltu â mary-ann.constantine@cymru.ac.uk

Cynhelir y prosiect dan nawdd Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen gydweithredu Iwerddon Cymru, a than arweiniad Coleg Prifysgol Corc. 

 

Llun: Holyhead, Yale Center for British Art PD