Yn dilyn llwyddiant ysgubol y digwyddiad yn 2023, mae bandiau arddwrn bellach ar werth ar gyfer pumed Lleisiau Eraill Aberteifi, gŵyl gerddoriaeth a syniadau Cymru-Iwerddon a ysbrydolwyd gan y gyfres gerddoriaeth Wyddelig enwog, a fydd yn cael ei chynnal yn Aberteifi dros benwythnos 31ain Hydref – 2il Tachwedd eleni.

Mae bandiau arddwrn Pris Cynnar yn costio £35 yn unig, a chynghorir archebu’n gynnar gan fod yr holl docynnau wedi’u gwerthu ar gyfer yr ŵyl y llynedd. Mae nifer cyfyngedig o docynnau i’r rheiny dan 18 hefyd ar werth am £10 yn unig. Mae bandiau arddwrn yn rhoi mynediad anghyfyngedig i aelodau'r gynulleidfa i'r Llwybr Cerdd a'r sesiynau Clebran dros dridiau. Hefyd, bydd yn eu cynnwys yn y raffl i ennill y tocynnau y mae galw mawr amdanynt i’r perfformiadau byw cartrefol yn Eglwys y Santes Fair, a fydd yn cael eu ffrydio’n gydamserol ar-lein yn fyd-eang a’u recordio i’w darlledu ar y teledu yn y dyfodol.

Roedd lein-yp yr Eglwys y llynedd yn cynnwys Yard Act a enwebwyd am Wobr Mercury, King Creosote yr arwr gwerin, Adwaith sydd wedi ennill y Wobr Cerddoriaeth Gymreig ddwywaith, a mwy, yn perfformio sioeau cartrefol ar gyfer rhai enillwyr tocynnau lwcus, gyda set serol arall ar gyfer 2024.

Bellach yn ei phumed flwyddyn, mae Lleisiau Eraill Aberteifi wedi dod yn ddigwyddiad y mae disgwyl brwd amdano yng nghalendr gwyliau’r DU ac yn rhan sefydledig o deulu Other Voices. Dros y blynyddoedd, mae rhwydwaith Other Voices wedi ymestyn i Ferlin, Llundain, Efrog Newydd, Austin, Belfast a thu hwnt. Gyda’r DJ Cerddoriaeth BBC6 a Chyflwynydd arferol Lleisiau Eraill Huw Stephens wrth y llyw, gall mynychwyr yr ŵyl eleni ddisgwyl lein-yp anhygoel arall o gerddoriaeth arloesol o bob math o genre, yn cynnwys popeth o hip-hop, grime ac electronica i ôl-bync, traddodiadol a gwerin, gydag artistiaid sy’n amlygu’r cysylltiadau diwylliannol rhwng y ddwy genedl hyn.

Mae’r ŵyl yn dathlu amrywiaeth a bywiogrwydd cerddoriaeth Cymru ac Iwerddon, ac yn cynnig penwythnos o brofiadau cerddorol heb ei ail i bob oed, gyda dros 80 o berfformiadau mewn bariau, caffis, theatrau a lleoliadau cartrefol o gwmpas Aberteifi, gan roi llwyfan i oreuon cerddoriaeth newydd a cherddoriaeth sy'n dod i'r amlwg ar ddwy ochr Môr Iwerddon a thu hwnt.

Estynnwn groeso eto i’r sesiynau Clebran yn y Mwldan, gan roi llwyfan i siaradwyr a meddylwyr blaenllaw ddod at ei gilydd i drafod, rhannu syniadau, ysgogi sgwrs ac archwilio safbwyntiau ar faterion cyfoes. Bydd Clebran yn digwydd yn ystod y dydd dros dridiau’r ŵyl, gyda siaradwyr blaenorol yn cynnwys Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford, yr awdur a’r darlledwr Jon Gower, a Bardd Cenedlaethol Cymru Hanan Issa.

 

Dyfyniad gan Philip King, sylfaenydd Other Voices:

“Yn dilyn digwyddiad hynod lwyddiannus yn 2023, mae bandiau arddwrn bellach ar

werth ar gyfer pumed Lleisiau Eraill Aberteifi, gŵyl gerddoriaeth a syniadau Cymru-

Iwerddon a ysbrydolwyd gan y gyfres gerddoriaeth Wyddelig enwog, a fydd yn cael ei chynnal yn Aberteifi dros benwythnos 31ain Hydref – 2il Tachwedd eleni.

Dros dridiau, bydd Lleisiau Eraill Aberteifi yn rhoi llwyfan i lein-yp gwych arall o

ddigwyddiadau cerddorol a diwylliannol mewn lleoliadau cartrefol a gofodau llawn naws ledled Aberteifi, gyda Huw Stephens wrth y llyw ac wedi’u cyflwyno mewn partneriaeth â’r Mwldan a Triongl.

 

Caiff rhaglen yr ŵyl ei ffurfio gan dri llinyn craidd: rhaglen dridiau y Llwybr Cerdd sy’n

arddangos y talentau gorau sy’n dod i’r amlwg o Iwerddon a Chymru, deuddydd o

drafodaeth ysbrydoledig fel rhan o’r Sesiynau Clebran a’r nosweithiau o brif

berfformiadau byw cartrefol yn Eglwys y Santes Fair gan rai o leisiau mwyaf disglair y byd cerddoriaeth.”

 

Dyfyniad gan Dilwyn Davies, Prif Swyddog Gweithredol y Mwldan:

“Ers 2019, mae Lleisiau Eraill Aberteifi wedi symud o fod yn freuddwyd i fod yn realiti blynyddol, ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd y pumed ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 31ain Hydref ac 2il Tachwedd 2024. Wrth galon yr ŵyl mae’r berthynas arbennig rhwng Iwerddon a Chymru, ac rydym yn ymfalchïo mewn dathlu ein diwylliannau cyffredin, ieithoedd unigryw a cherddorion, artistiaid a meddylwyr o’r radd flaenaf. Ymunwch â’n teulu yr hydref hwn i fwynhau bywyd ar gyrion gorllewinol Cymru, tridiau o gerddoriaeth, syniadau a sgwrsio godidog, ac agorwch eich calonnau i ffrindiau hen a newydd o Iwerddon, Cymru a thu hwnt. Croeso cynnes i bawb.” 

Bydd pris bandiau arddwrn yn cynyddu i £50 o 1af Gorffennaf. Am fwy o wybodaeth a diweddariadau pellach wrth iddyn nhw ddigwydd ewch i othervoices.ie neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol [@Othervoiceslive a @TheatrMwldan].

Mae Lleisiau Eraill Aberteifi yn cael ei lwyfannu gyda chefnogaeth a buddsoddiad Llywodraeth Cymru a’r Adran Twristiaeth, Diwylliant, y Celfyddydau, y Gaeltacht, Chwaraeon a’r Cyfryngau ac fe’i cynhyrchir gan South Wind Blows mewn partneriaeth â Mwldan a Triongl. Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Ffyniant Bro gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ceredigion. Bydd y digwyddiad yn cael ei ffilmio gan Triongl i'w ddarlledu yn ddiweddarach ar RTÉ.

 

DIWEDD/

 

Cysylltwch â Tamsin Davies tamsin@mwldan.co.uk am fanylion pellach.

 

Lleisiau Eraill Aberteifi 2023:

https://youtu.be/tYZ_O8JXS0M

 

Beth yw Lleisiau Eraill Aberteifi? Mae Huw Stephens yn egluro:

https://www.youtube.com/watch?v=0F9PNmDhRCo

 

Delweddau cydraniad uchel i’r wasg eu lawrlwytho:

https://www.dropbox.com/scl/fo/mbky5bii61qhxiovuff8n/h?rlkey=c1j8urwpb5c4ysaysxbl050ji&dl=0

 

Mae Cofrestru ar gyfer Band Arddwrn yn agor ar 22ain Chwefror trwy othervoices.ie

 

Caiff manylion llawn yr ŵyl eu rhyddhau yn ystod yr wythnosau nesaf, gan gynnwys manylion y Galwad Agored i gerddorion. Dilynwch ni / Cofrestrwch nawr am fwy o wybodaeth:

@OtherVoiceslive othervoices.ie

@TheatrMwldan  mwldan.co.uk

 

Mae Lleisiau Eraill Aberteifi yn cael ei lwyfannu gyda chefnogaeth a buddsoddiad Llywodraeth Cymru a’r Adran Twristiaeth, Diwylliant, y Celfyddydau, y Gaeltacht, Chwaraeon a’r Cyfryngau ac fe’i cynhyrchir gan South Wind Blows mewn partneriaeth â Mwldan a Triongl. Caiff y prosiect hwn ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chymorth Cronfa Cynnal y Cardi gan Gyngor Sir Ceredigion. Bydd y digwyddiad yn cael ei ffilmio gan Triongl i'w ddarlledu'n ddiweddarach ar RTÉ.

 

Cychwynnodd Other Voices fel digwyddiad cerddorol untro mewn eglwys fechan yn Dingle, pentref pysgota bychan yng ngorllewin Iwerddon. Dros y 23 mlynedd diwethaf, mae’r Other Voices wedi tyfu.

 

Bellach, mae Other Voices yn ddigwyddiad sefydlog yn y calendr cerddorol – digwyddiad sy’n ‘rhaid ei fynychu’ i berfformwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd. Mae Other Voices wedi arwain at greu cyfres deledu gerddorol ryngwladol, ac wedi hynny fe ddatblygodd ffilmio’r gyfres honno yn ŵyl gerdd, a digwyddiad twristiaeth annibynnol sy’n dathlu’r lleol ar raddfa fyd-eang. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Other Voices wedi teithio i Lundain, Belfast, Efrog Newydd, Austin, Texas a Berlin.

 

Uchafbwyntiau Lleisiau Eraill:

Amy Winehouse: https://www.youtube.com/watch?v=a1xFsoRYrds

Hozier: https://www.youtube.com/watch?v=0_oGM2o2y0Y

Sam Fender: https://www.youtube.com/watch?v=bCrwhejbCxo

Fontaines D.C: https://www.youtube.com/watch?v=OigDCDM5_Qc

The Murder Capital: https://www.youtube.com/watch?v=r19CdbbYQMk

Sigrid: https://www.youtube.com/watch?v=m9jwHvfgMjE

YoungFathers: https://www.youtube.com/watch?v=C01pXeWoGFk

 

www.othervoices.ie

@othervoiceslive

 

Mwldan

Mae’r Mwldan yn Ganolfan Celfyddydau a sinema annibynnol a leolir yn Aberteifi. Mae'r ganolfan yn cyflwyno rhaglen fyw aml-gelfyddyd ac yn dangos tua 3000 o ffilmiau a darllediadau byw yn flynyddol. Mae’r Mwldan yn lleoliad cynhyrchu o bwys, sy’n gyfrifol am gydweithrediadau rhyngwladol fel Catrin Finch a Seckou Keita, ac mae hefyd yn cynhyrchu Digwyddiadau Haf Castell Aberteifi mewn partneriaeth â Chastell Aberteifi. Yn 2017, cychwynnodd y Mwldan y label recordio bendigedig mewn partneriaeth â chynyrchiadau cerddorol ARC, gan weithredu model 360 gradd o reoli artistiaid, cynrychioli, cynhyrchu, rhyddhau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. Mae gan y sefydliad, sy’n elusen a menter gymdeithasol gofrestredig nid-er-elw, drosiant blynyddol o £1.7 miliwn (cyn Covid) ac mae'n cyflogi tîm o 24 aelod staff.

 

www.mwldan.co.uk

@TheatrMwldan

 

Triongl

Cwmni cynhyrchu teledu a ffilm yw Triongl a sefydlwyd yn 2017 gan Nora Ostler ac Alec Spiteri gyda Gethin Scourfield yn ymuno yn 2018. Mae'r tri yn gynhyrchwyr profiadol gyda hanes o gynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel, gwobrwyedig. Byddant yn dogfennu ‘Other Voices/Lleisiau Eraill’ ar gyfer rhaglen arbennig awr o hyd i’w darlledu nes ymlaen ar S4C ac RTÉ.

 

www.triongl.cymru

@triongl_tv