Mae Hijinx, un o gwmnïau theatr cynhwysol amlycaf Ewrop, wedi lansio rhaglen hyfforddiant ryngweithiol newydd i helpu’r rhai sy’n gweithio ar draws diwydiannau’r sgrin yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt i wella eu sgiliau a’u hyder wrth gyfathrebu gydag oedolion ag anabledd dysgu a/neu awtistig ar y set, wrth ddatblygu a thu ôl i’r camera. Dyma’r rhaglen hyfforddi cynhwysiant rhyngweithiol gyntaf o’i math gyda’r cwrs yn cael ei gyd-hwyluso gan lawer o actorion niwrowahanol, gan eu rhoi nhw wrth y llyw i greu newid yn y diwydiant.

Mae diffyg cynrychiolaeth arwyddocaol o ran actorion, criw teledu a ffilm ag anabledd dysgu a/neu awtistig yn niwydiannau’r sgrin. Canfu’r ffigyrau diweddaraf gan Diamond - The 5th Cut (gan y Rhwydwaith Amrywiaeth Creadigol) bod 6% o gyfraniadau oddi ar y sgrin ac 8.3% o gyfraniadau ar y sgrin yn cael eu gwneud gan bobl anabl - nifer sylweddol is na’r gyfradd 18% o bobl anabl ym mhoblogaeth y Deyrnas Unedig.

Er mwyn ymdrin â’r broblem hon, mae Hijinx wedi lansio’r rhaglen hyfforddi ReFocus; cwrs undydd, yn dechrau yng Nghaerdydd ac i gael ei gyflwyno ledled y wlad, a fydd yn helpu pobl o bob rhan o’r diwydiant – o gomisiynwyr i dimau camera a goleuo, cyflwynwyr, actorion, staff arlwyo, cynhyrchwyr a thimau coluro a gwisgoedd – i ddeall profiadau actorion Hijinx ochr yn ochr â hwyluswyr creadigol eraill a dysgu ffyrdd newydd o ryngweithio’n hyderus ag oedolion sy’n niwrowahanol a/neu ag anabledd dysgu. Mae’r dull newydd arloesol yma yn golygu mai dyma’r hyfforddiant cynhwysiant o brofiad pobl anabledd cyntaf o’i fath, lle bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dysgu mewn amgylchedd hamddenol a rhyngweithiol i roi eu sgiliau ar waith a goresgyn yr osgoi sy’n nodweddiadol.

Dywedodd Sarah Horner, Prif Weithredwr Hijinx

“Ein huchelgais yw ymdrin â’r bwlch sylweddol yn sgiliau’r sector ac rydym yn credu’n gadarn y dylai cwrs hyfforddi fel ReFocus fod yn safon newydd i’r diwydiant i bawb yn y diwydiant ei fynychu. Yn aml bydd pobl yn ansicr sut i fynd at a chyfathrebu â chydweithwyr sy’n niwrowahanol a/neu ag anabledd dysgu, ac oherwydd bod arnynt ofn peidio a dweud neu wneud y peth iawn, maent yn dewis osgoi sy’n arwain at brofiad unig iawn i’r unigolyn. Mae teimlo eich bod yn cael eich cydnabod yn angen dynol ac mae llawer ohonom yn cymryd yn ganiataol y bydd diwrnod yn y gwaith yn gyfle i gysylltu ag eraill, chwerthin a dysgu gan gydweithwyr. Rydym am gefnogi’r rhai sy’n gweithio trwy’r diwydiant i roi iddynt yr hyder a’r sgiliau i gynnwys yn hytrach nag ymbellhau oddi wrth y rhai sy’n anabl.”

Mae Hannah Thomas, Severn Screen, cynhyrchydd Craith/Hidden wedi cydweithio gyda Hijinx ar nifer o brosiectau, gan gynnwys gweithio’n ddiweddar gydag actor Hijinx Justin Melluish, sydd â Syndrom Down, pan oedd yn seren yn nrama’r BBC Hidden.

Dywedodd Hannah:

‘Rwy’n meddwl o ddifri ei bod yn anhygoel o bwysig i ni gynyddu ein cynrychiolaeth ar y sgrin. Mae gweithio gyda Hijinx wedi gwneud i ni fod eisiau ei wneud eto ac eto ar bob cynhyrchiad.’

Ychwanegodd actor Hijinx arall oedd yn seren yn Glitch, Tommy Rhys-Powell:

“Mae gweithio fel actor proffesiynol yn teimlo yn ysbrydoliaeth. Gan helpu pobl eraill i edmygu ein gwaith. Mae’n fy helpu i fynegi fy nheimladau i’r byd. Bydd ReFocus yn helpu i roi’r cyfle hwnnw i actorion eraill ag anabledd dysgu hefyd.”

Wrth gydnabod ei arwyddocâd i’r diwydiant a chymdeithas yn ei chyfanrwydd, derbyniodd ReFocus gyllid gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Sgiliau Creadigol newydd Cymru Greadigol. Mae hyn yn galluogi i Hijinx gyflwyno prisiau gyda chymhorthdal gan gynnwys rhai lleoedd am ddim, i sicrhau na fydd y gost yn rhwystro pobl rhag cymryd rhan.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:

“Un o fwriadau allweddol Cronfa Sgiliau Creadigol Cymru Greadigol yw dynodi a thaclo heriau yn y diwydiannau creadigol. Dangosodd ymchwil a wnaed bod angen gwneud mwy o waith ar y gynrychiolaeth o bobl ag anabledd dysgu a/neu awtistig sydd ar y sgrin a thu ôl i’r camera, felly rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi prosiect ReFocus Hijinx, a fydd yn helpu Cymru i arwain y ffordd wrth ymdrin â’r mater hwn a chreu mwy o gyfleoedd i bobl.”

Gallwch archebu lle yn awr am hyfforddiant ReFocus ac mae croeso i unrhyw un sy’n gweithio yn niwydiannau’r sgrin (teledu, ffilm, gemau). Y ddau ddyddiad cyntaf sydd ar gael yw 26 a 27 Medi 2023, a byddant yn cael eu cynnal yn y Tramshed Tech yn Nhrelluest, Caerdydd, a bwriedir trefnu llawer mwy o ddyddiadau trwy gydol y flwyddyn.

Y pris ar gyfer cwrs diwrnod yw £26 i’r rhai sy’n gweithio mewn sefydliad bach (llai na 25 o staff) a £72 i sefydliadau mwy. Er mwyn archebu ar-lein https://www.hijinx.org.uk/refocus/

Mae nifer gyfyngedig o leoedd am ddim ar gael i weithwyr llawrydd neu’r rhai sy’n gweithio mewn sefydliadau bach iawn. Er mwyn cael gwybod rhagor anfonwch e-bost at zade.campbell-davies@hijinx.org.uk.