Cwmni theatr Frân Wen wedi penodi Elgan Rhys fel Pennaeth Ymgysylltu.

Ar ôl mwy na degawd o fyw yng Nghaerdydd, mae’r cyfarwyddwr, gwneuthurwr theatr a dramodydd o Bwllheli yn dychwelyd adref i Ogledd Cymru.

Cyfarwyddodd Elgan ein haddasiad llwyfan o Llyfr Glas Nebo (2020), cyd-ysgrifennodd ein sioe gerdd epig Branwen:Dadeni a fo oedd ein hartist cyswllt rhwng 2017-2019. Elgan hefyd yw’r golygydd creadigol y tu ôl i’r gyfres lyfrau arloesol Y Pump ac roedd yn gyd-sefydlydd Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Pluen Company (2014-21).

Gyda diddordeb arbennig mewn grymuso lleisiau ein cymunedau, bydd Elgan yn goruchwylio a datblygu ein rhaglen ymgysylltu a chyfranogi  sy’n ymwneud â phobl ifanc ac oedolion o’r gymuned a’r sector gelfyddydol.

Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Elgan: "Dwi'n hynod o falch i ymuno â Frân Wen, cwmni sydd wedi fy ysbrydoli a fy ymbweru i drwy gydol fy ngyrfa. Dwi’n barod i ddathlu, i rymuso ac i gydweithio gyda phobl ifanc a chymunedau’r gogledd orllewin, a rhannu ein straeon gyda’r byd.