Mae Pembrokeshire Storytelling / Straeon Sir Benfro a People Speak Up wedi bod yn rhedeg cyfres o ddigwyddiadau ar draws Sir Benfro yn 2025, gan ddwyn pobl a chymunedau at ei gilydd.
Mae’r chwedleuwyr Hedydd Hughes a Deb Winter wedi bod yn rhannu eu chwedlau gyda’r rhai sy’n methu codi mas. Mae Hedydd wedi difyrru’r rhai mewn cartrefi gofal preswyl ac mae Deb wedi mynd â storïau i gartrefi pobl.
Dywedodd y chwedleuwr Deb Winter, “Mae mynd â’r celfyddydau at y rhai sy’n methu mynd mas yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn rhan o’r gymuned. Mae’n gwirioneddol godi hwyliau pobl gwrando ar storïau a rhannu eu storïau eu hunain.”
Gyda chefnogaeth Gwella Sir Penfro – Cyngor Sir Penfro, mae’r prosiect 12 mis, ‘Gofalu, Rhannu, Cysylltu: Chwedleua Cymunedol Sir Benfro,’ yn defnyddio chwedleua llafar i gysylltu preswylwyr Sir Benfro a chyflwyno digwyddiadau chwedleua cymunedol cyfeillgar, cynhwysol, gweithdai dysgu gweithredol a chwedleua un i un i’r rhai unig/sy’n methu teithio. Cychwynnodd y prosiect ym Medi 2024.
Mae’r chwedleuwyr Hedydd Hughes, Phil Okwedy a Judy Schunemann hefyd wedi bod yn gweithio mewn lleoliadau preswyl a chartrefi pobl ers hynny.
Mae Fishguard Storytelling/Straeon Sir Benfro a People Speak Up wedi gweithio mewn partneriaeth o’r blaen i gyflawni prosiectau cymunedol yng ngogledd a de Sir Benfro, fel prosiect Celfyddydau Gwirfoddol Cymru (Bywydau Creadigol nawr) ‘Stori Gofal a Rhannu’, yn dosbarthu Straeon at y Drws a dros y ffôn i bobl hŷn unig, a chartrefi pobl, gan gynnwys y rhai yng nghyfnod cynnar dementia.
Mae’r ddau sefydliad am i Gofalu, Rhannu, Cysylltu: Chwedleua Cymunedol roi cyfleoedd i bobl o bob oed, gallu a chefndir i fwynhau’r manteision iechyd meddwl a llesiant y mae rhannu straeon llafar yn ei gynnig.
“Rydym yn gwybod yn bersonol, o brosiectau blaenorol, yr effaith bwysig y gall y celfyddydau a chreadigrwydd ei gael ar iechyd a llesiant ein cymunedau hŷn, yn arbennig y rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru. Rydym yn gobeithio, trwy’r prosiect hwn, y gall grym chwedleua ddwyn mwy o gymunedau at ei gilydd, gan helpu gydag iechyd, llesiant ac unigrwydd.” Eleanor Shaw, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr PSU.
Arweinir Gofalu, Rhannu, Cysylltu: Chwedleua Cymunedol Sir Benfro gan y chwedleuwraig broffesiynol leol o Sir Benfro, Deb Winter, gan adeiladu ar ei gwaith llwyddiannus yn datblygu gweithgareddau chwedleua ac yn gwahodd artistiaid a chydweithwyr eraill i gymryd rhan.
Yn ogystal â chyflwyno storïau i bobl unig, roedd Deb Winter hefyd yn rhedeg gweithdy Sgiliau Chwedleua i ddechreuwyr, Rhannu Stori cymunedol a phum digwyddiad Stori a Cherddoriaeth. Y digwyddiad nesaf fydd ‘The Restless River’ ar ddydd Mercher 9 Gorffennaf am 7pm yn Peppers Cafe lle bydd chwedleuwyr yn dathlu glaw ac afonydd!