Mae Prosiect Dramodwyr Ifanc Theatr Iolo ar fynd ers 2020; fe’i crëwyd gan y cwmni i symbylu plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru i chwilio proses sgrifennu dramâu ac i roi cynnig ar sgrifennu eu dramâu eu hunain.
Bob blwyddyn dewisir pedair drama i’w recordio’n ddramâu podlediad gan actorion a chyfarwyddwyr proffesiynol. Y dramâu ddewiswyd yn 2024 oedd Y Freuddwyd Beryglus gan Sophie (10 oed), The Well-Known Wicks gan Ali (10 oed), The Great Christmas Dinner Plot gan Alex (15 oed) a Tu ôl i'r Sgrin gan Sioned (14 oed).
Mae’r dramâu bellach wedi’u rhyddhau fel dramâu podlediad y gellir gwrando arnynt gartref neu yn yr ysgol ar sianel bodledu Theatr Iolo.
Recordir y dramâu dros gyfres o sesiynau ar lein pan gaiff y dramodwyr ifanc gyfle i rannu eu hysbrydoliaeth a gwylio recordio eu dramâu.
“Roedd hi’n anhygoel gweld fy ngeiriau yn dod yn fyw drwy leisiau’r actorion. Nes i fwynhau’r recordio’n fawr ac rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gydweithio â chwmni proffesiynol. Mae’r profiad wedi magu blas ar gyfer parhau i ’sgwennu, ac rwy’n gobeithio datblygu fy ’sgwennu, yn enwedig i’r llwyfan a’r sgrîn, yn y dyfodol.”
Sioned, Young Playwright
“Mae ein Prosiect Dramodwyr Ifanc yn cynnig i ni gyfle heb ei ail i bobl ifanc eu mynegi eu hunain drwy sgwennu stori i blant yr oed oed â nhw, am y pethau maen nhw’n malio amdanyn nhw. Drwy gynnig cyfleoedd i bobl ifanc sgwennu i’w cymheiriaid, rydym yn gobeithio creu gwaith sy’n ddrych o’r amrywiaeth eang o destunau sydd o ddiddordeb i bobol ifanc heddiw, yn ogystal ag ysbrydoli a datblygu lleisiau theatrig y dyfodol.”
Lee Lyford, Cyfarwyddwr Artistig
Mae’r dramâu bellach ar gael i wrando arnynt am ddim drwy sianel bodledu Theatr Iolo neu gellir cael blas arnynt drwy ein sianel YouTube gyda chapsiynau