Caiff drama lwyfan newydd yn seiliedig ar brofiad byw’r prif actor o oroesi cam-drin rhywiol – ac y mae’n gobeithio y bydd yn annog dynion eraill i siarad yn agored am eu trawma – ei llwyfannu yng Nghaerdydd a Threorci ym mis Hydref eleni.
Wedi'i lleoli yn nyffryn Rhondda, mae'r ddrama seicolegol No Man's Land yn dilyn brwydrau ei phrif gymeriad, gan lywio effeithiau trawma ar ei feddwl a realiti ei fywyd bob dydd.
Fe'i perfformir ar y llwyfan gan Kyle Stead; gweithiwr creadigol niwroamrywiol, a aned a'i fagu yn Rhondda Cynon Taf ac sydd bellach yn gweithio fel gwneuthurwr theatr, bardd gair llafar, fideograffydd, cynhyrchydd a mentor. Derbyniodd Kyle Fwrsariaeth Greadigol Weston Jerwood 2020-2022.
Kyle fydd yr unig berfformiwr ar y llwyfan, ynghyd â lleisiau'r actorion Richard Elfyn, Rhys Parry Jones, Tori Lyons, Tobias Weatherburn a Toby Hawkins.
Ysgrifennwyd No Man's Land gan yr awdur arobryn Rachel Trezise, fe’i cyfarwyddwyd gan Matthew Holmquist a’i gynhyrchu ar y cyd gan Kyle gyda Theatr y Sherman a Theatrau RhCT gyda chefnogaeth gan Platfform. Darperir cefnogaeth lles i'r cwmni a'r cynulleidfaoedd gan Silence Speaks.
Mae'r frwydr dros oroesi yn cael ei hymladd y tu mewn i'r meddwl.
Wedi'i lleoli yn Nyffryn Rhondda, rydym yn dilyn Lewis wrth iddo deithio trwy ddau fyd i ddarganfod y mecanwaith ar gyfer ei oroesiad. Byd o realiti ac anialwch.
Beth sy'n digwydd pan fydd y byd yn dweud wrthych chi am fod yn ddyn, ond bod pob rhan ohonoch chi wedi'i rhwygo? Ac a fydd Lewis yn wynebu ei drawma neu'n parhau i fyw yn ei gysgodion?
Dywedodd y cyd-gynhyrchydd a'r prif actor Kyle Stead:“Rwy’n awyddus i’r gwaith hwn arwain at fwy o leoedd i ddynion deimlo’n gyfforddus yn siarad am eu trawma. Byddwn i’n gobeithio y gallai’r darn ddechrau torri’r stigma sydd gan gymdeithas ar iechyd meddwl, yn enwedig o ran dynion. Rwyf wedi cael fy nghamddeall am gyfnod helaeth o fy mywyd a thrwy ganiatáu i gynulleidfaoedd gael cipolwg ar fy meddylfryd fel goroeswr, efallai y byddant yn darganfod bod rhywun agos atynt wedi bod yn ymladd yn dawel a gallant gynnig y gefnogaeth iddynt nad oedd gennyf i. Rwyf am i No Man’s Land greu amgylchedd lle mae goroeswyr yn teimlo’n ddilys. Ni ddylem deimlo cywilydd am ein profiad byw a cholli ein hunain i ddigwyddiadau na allem eu rheoli.
“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi’r rôl y mae theatr yn ei chwarae wrth gefnogi a galluogi cymdeithas i archwilio a threulio themâu o natur sensitif yn agored. Rhan sylfaenol o'r broses hon fu creu a datblygu llwybrau ar gyfer talent sy'n dod i'r amlwg o fewn sîn theatr De Cymru, gan sicrhau bod y rhai sy'n awyddus i greu gwaith sy'n herio ac yn cymryd risgiau yn cael y cyfle a'r llwyfan i wneud hynny."
Dywedodd yr awdures Rachel Trezise: “Mae goroesi cam-drin rhywiol yn bwnc sy’n agos at fy nghalon fy hun, felly mae wedi bod yn anrhydedd llunio profiad byw Kyle yn y sgript hon, a gobeithio y bydd hynny’n mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at ddileu stigma a rhoi gwybodaeth am faterion cywilydd a thrawma. Rydw i wedi syrthio mewn cariad â’r cast o gymeriadau rydyn ni wedi’u creu ac alla i ddim aros i’w rhannu gyda chynulleidfa.”
Dywedodd Julia Barry, Prif Weithredwr Theatr y Sherman: “Rhan allweddol o’n gweledigaeth yw byd sy’n cael ei wneud yn fwy tosturiol gan y theatr. Mae empathi Kyle â’r rhai sydd wedi dioddef fel y mae ef yn ei ysgogi, a’i benderfyniad i lusgo straeon fel eu rhai hwy i’r goleuni ac allan o’r cysgodion. Rydym yn falch iawn o gyd-gynhyrchu gwaith o’r fath dosturi mewn tymor o waith sy’n adlewyrchu lleisiau o bob cwr o Gymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o’r Cabinet dros Gymunedau yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae gan y cynhyrchiad pwerus a phersonol iawn hwn y pŵer i ysbrydoli, cysylltu a sbarduno sgyrsiau ynghylch trawma ac iachâd. Mae stigma treiddiol a niweidiol o hyd ynghylch ymosodiad rhywiol, yn enwedig o ran dioddefwyr gwrywaidd, felly mae’r cynhyrchiad hwn yn hynod bwysig. Hoffwn ddiolch i Kyle am y dewrder a’r cryfder y mae wedi’i ddangos wrth ddod â straeon goroeswyr yn fyw, ac fel Cyngor rydym yn falch o gefnogi ei waith wrth daflu goleuni ar y pwnc sensitif hwn.
“Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i gyfoeth rhyfeddol o dalent greadigol sy’n aml yn cael ei feithrin trwy ein gwasanaeth Celfyddydau a Diwylliant, yn ogystal ag yn ein theatrau sy’n eiddo i’r Cyngor. Rydym yn falch o fod yn cefnogi Kyle a Rachel i ddod â No Man’s Land i’r cyhoedd. Rydym hefyd wrth ein bodd yn cydweithio â Theatr y Sherman i roi llwyfan ehangach i’n trigolion talentog rannu eu straeon a’u lleisiau gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru.”
Caiff No Man's Land ei pherfformio yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd 14-18 Hydref cyn trosglwyddo i Theatr y Parc a'r Dâr yn Nhreorci, 23-25 Hydref.