Bydd Papertrail, mewn cydweithrediad â Clean Break, yn cyflwyno’r perfformiad cyntaf erioed o ddrama newydd bwerus Siân Owen, ‘A Visit,’ yn YMa, Pontypridd o 30 Medi tan 5 Hydref. 

Mae ‘A Visit’ yn ddrama newydd sbon am droseddu, cyfiawnder a gofal plant sy'n gofyn - pwy sydd yn gofalu am y plant pan fydd mam yn cael ei hanfon i'r carchar.



Mae Papertrail a Siân Owen wedi creu darn gafaelgar o theatr wedi’i ysbrydoli gan straeon bywyd go iawn y menywod a’r bobl ifanc y maent wedi gweithio gyda nhw.

Nid oes carchardai i fenywod yng Nghymru. Mae'n rhaid i deuluoedd deithio ar gyfartaledd rhwng 3 a 4 awr y tu allan i Gymru i weld eu perthnasau yn y carchar, gan ddod â phlant ifanc gyda nhw ar y profiad llethol hwn.



Ers 2019 mae Papertrail a Siân Owen, gyda chefnogaeth Clean Break, wedi bod yn cyfarfod a chyfweld merched a phlant o Gymru a Lloegr sydd wedi cael eu heffeithio gan garcharu mamol. Cyfarfuont hefyd ag academyddion a gweithwyr cymdeithasol sydd wedi gweithio gyda theuluoedd yn y system carchardai a chyfiawnder troseddol.

“Mae Papertrail yn gwmni sy’n llwyfannu lleisiau nas clywir, a dyw stori plentyn gyda rhiant yn y carchar ddim yn un sy’n cael ei hadrodd yn aml. Mae ein drama ddiweddaraf, ‘A Visit’, yn gwahodd y gynulleidfa i gamu i esgidiau ei chymeriadau a dychmygu sut fydden nhw’n teimlo. Gobeithiwn y bydd y ddrama yn codi cwestiynau am yr hyn sy'n digwydd i blant sy'n cael eu dal yn y sefyllfa hon. Rydym hefyd am daflu goleuni ar yr heriau penodol y mae menywod a’u teuluoedd yn eu hwynebu yng Nghymru, a’r pellteroedd hir y mae’n rhaid i blant deithio er mwyn gweld eu mam.”

Mae Papertrail, cwmni theatr o Gaerdydd, yn llwyfannu straeon nad ydynt yn cael eu clywed yn aml ac yn eu cyflwyno i gynulleidfaoedd mewn ffyrdd difyr. Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Papertrail wedi cynhyrchu ‘The Container’, ‘Day to Go’ a ‘A Night in the Clink’, gan weithio ochr yn ochr â chymunedau i greu’r gwaith.

Ysbrydolwyd yr awdur, Siân Owen (Under Milk Wood y Theatr Genedlaethol) i ysgrifennu am yr effaith y mae hyn yn ei gael ar ferched Cymru, a’u teuluoedd, a gosododd y ddrama yn nhref enedigol ei theulu, Aberdâr.

Mae’r cast cryf, o ferched yn unig yn cynnwys Siwan Morris (Gwaith Cartref, Wolfblood, Caerdydd, Skins a Theatr Genedlathol) a Bethan Mclean (Theatr y The Merthyr Stigmatist,  Bwmp & Yr Amgueddfa )

Bydd Ymweliad yn cael ei berfformio yn YMa, Pontypridd, De Cymru rhwng 30 Medi a 5 Hydref.

BSL - Claire Anderson a Cathryn Mcshane

Bydd pob perfformiad ac eithrio 5 Hydref â dehongliad BSL a chapsiynau

12+ oed

Rhybuddion Cynnwys: Mae'r ddrama yn cynnwys cyfeiriadau at gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon a charcharu.

Tocynnau £5-£12

Mae gweithdai hefyd ar gael o fis Gorffennaf i fis Medi mewn ysgrifennu a pherfformio ac yn cael eu harwain gan y rhai creadigol dan sylw. Dehongli BSL ar gael mewn sawl gweithdy.

Ymwelwch â papertrail.org i gael rhagor o wybodaeth am ‘A Visit’ a’r gweithdai.

Mae ‘A Visit’ wedi'i greu gan Papertrail mewn cydweithrediad â Clean Break. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, YMa, Artis Community a Datblygu Celfyddydau CBS Rhondda Cynon Taf.