I nodi 25 mlynedd ers y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae Celfyddydau'r BBC, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a’r Alban Greadigol wedi lansio cylch comisiynu Diwylliant yn y Cofnod Cloi newydd i ddathlu gwaith artistiaid anabl, B/byddar a niwroamrywiol.

Bydd 8 artist anabl sefydledig, gan gynnwys 2 o Gymru, yn cael eu comisiynu i greu gwaith fideo neu sain. Cyhoeddir y rhain ar lwyfannau'r BBC yn 2021, gyda'r nod o gyrraedd cynulleidfaoedd ledled Prydain a’r byd. Sefydlwyd Diwylliant yn y Cyfnod Cloi gan Gelfyddydau’r BBC yn gynharach yn y flwyddyn ac mae'n canolbwyntio'n llwyr ar waith gan artistiaid anabl.

Mis Tachwedd 2020 yw 25 mlynedd ers i’r Ddeddf ddod i rym. Ond daw'r garreg filltir yng nghanol y pandemig a'r problemau ychwanegol i bobl anabl. O ganlyniad, mae llawer o artistiaid anabl yn wynebu anawsterau i gynnal eu hymarfer artistig gan gynnwys hunanddiogelu, colli incwm a mynd yn fwy anweledig yn ein cymdeithas – materion a amlygwyd gan ymgyrch Cynghrair Celfyddydau Anabledd, Ni Chawn ein Dileu.

Dylai cynigion fod ar gyfer cynnwys fideo neu sain. Nid oes briff golygyddol penodol. Gall artistiaid ddewis a fyddent yn ymateb yn greadigol i brofiad pobl anabl o fyw drwy'r pandemig ai peidio. Mae Diwylliant yn y Cyfnod Cloi am glywed gan amrywiaeth o artistiaid anabl a sefydledig sy’n gweithio mewn unrhyw gelfyddyd.

Mae Diwylliant yn y Cyfnod Cloi dan reolaeth Y Gofod mewn partneriaeth â Diderfyn ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a’r Alban Greadigol.

Hanner dydd, dydd Mawrth 12 Ionawr 2021 yw’r dyddiad cau.

Am ragor o wybodaeth ewch i: https://www.thespace.org/resource/diwylliant-yn-y-cyfnod-cloi-cyfle-ir-celfyddydau