Yn galw cyfansoddwyr!
Mae Tŷ Cerdd – Adran Cymru swyddogol International Society for Contemporary Music (ISCM) – yn gwahodd cyfansoddwyr Cymreig/sy’n byw yng Nghymru i gyflwyno eu sgorau i Ddiwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd (WNMD) Rwmania (Bucharest) 2026.
Ceir 14 categori y gwahoddir cyflwyniadau ar eu cyfer i’w cyflwyno yn yr Ŵyl. Gallwch gyflwyno gweithiau drwy anfon fersiwn PDF o’r sgôr ynghyd â recordiad sain neu fideo o’r gwaith (os yw ar gael), neu ddogfennaeth sain/fideo os nad oes gan y gwaith sgôr ysgrifenedig.
Mae'r broses gyflwyno i Adran Gymraeg ISCM yn rhad ac am ddim a bydd panel Adran Cymru’r ISCM yn asesu’r cyflwyniadau gan roi gerbron chwech o weithiau fel y cyflwyniad swyddogol i’r ISCM. Fel Aelod Cyswllt ISCM, rhaid i'n cyflwyniad gwmpasu o leiaf pedwar o'r categorïau penodedig. Bydd un fan leiaf o’r chwech yma’n cael ei ddethol gan WNMD 2026 i’w berfformio.
Dylid nodi:
- Dim ond un gwaith y caiff pob cyfansoddwr ei gyflwyno drwy naill ai cyflwyniad unigol neu gyflwyniad swyddogol.
- Rhoddir blaenoriaeth i weithiau sy’n fyrrach na 10 munud o hyd ac eithrio lle y nodir yn benodol yn y disgrifiad o’r categori, ac a gyfansoddwyd ar ôl 2016, a rhoddir y flaenoriaeth uchaf i weithiau a gyfansoddwyd ar ôl 2021.
- Ni fydd ceisiadau gan gyfansoddwyr y cafwyd eu gwaith wedi perfformio yn Niwrnodau Cerddoriaeth y Byd ISCM 2025 ym Mhortiwgal yn cael eu hystyried.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy 10:00, Dydd Llun 1 Medi 2025