Dydd Mawrth 7 Hydref, 17:00 - 18:00
Hybrid: Ar-lein a 10 Woods Row, Caerfyrddin
Iaith Arwyddion Prydain: Cathryn McShane
Capsiynau: Laura Harrison
Cwrdd: Ripples gyda Dominic Williams
Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad Cwrdd nesaf i glywed am brosiect Ripples.
Mae Dominic Williams wedi gweithio gyda DAC am ugain mlynedd ac yn aelod presennol o'r bwrdd. Mae Dominic hefyd yn fardd, yn berfformydd ac yn drefnydd diwylliannol. Bydd e'n rhoi rhywfaint o hanes i'r prosiect Ripples y mae'n cymryd rhan ynddo sy'n uno barddoniaeth, perfformio, gwneud ffilmiau a chyfieithu. Bydd e'n rhannu ychydig o ‘ripples’ ac yn sôn am ei uchelgeisiau ar gyfer y prosiect a'r cyfleoedd posibl i aelodau DAC. Byddwn ni'n gorffen gyda rhai o leisiau barddonol o'r gynulleidfa.