Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Dafydd Rhys:

“Yn ystod ei hamser gyda ni, gwnaeth gyfraniad sylweddol. Mae ei harweinyddiaeth a'i harbenigedd wedi cael effaith fawr ar ein gwaith a gwaith y sector. Byddwn yn drist i’w gweld yn mynd. Ond rydym yn dymuno’r gorau iddi ar ran nesaf ei siwrnai. Edrychwn ymlaen at gael cyfle i ddiolch a dymuno’r gorau iddi yn y dyfodol.”