Nia Morais yw ein gwestai DEWIS diweddaraf!
Mae Nia yn awdur a dramodydd o Gaerdydd. Mae’n ysgrifennu ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion, ac mae ei gwaith yn aml yn canolbwyntio ar hunan ddelwedd, iechyd meddwl, a hud a lledrith. Cyhoeddwyd yn ddiweddar mai Nia fydd y Bardd Plant Cymru nesaf, yn ceisio sicrhau fod rhagor o gyfleoedd i blant a phobl ifanc drafod ac ysgrifennu am bynciau sydd yn hollbwysig iddyn nhw fel cenhedlaeth, ac sy’n brin mewn llenyddiaeth Gymraeg ar hyn o bryd. Gallwch ddysgu mwy am Nia a mwynhau rhagor o’i gwaith yma.
Meddai Nia: "Rydw i mor ddiolchgar ein bod gyda ni rhywle fel AM i gasglu'r holl bethau anhygoel sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd! Alla i golli oriau'n chwilio am bethau newydd a chyffrous i'w profi”.
DEWIS yw’r nodwedd sydd yn gwahodd gwestai gwahanol i bigo eu hoff cynnwys ar AM pob mis. Mae rhai o’n gwesteion blaenorol yn cynnwys Hanan Issa, Dead Method a Michael Sheen. Meddai Dylan Huw am DEWIS, yng nghylchgrawn Barn: “Mae’n cynnig mewnwelediad gwerthfawr i safbwyntiau creadigol rhai o’n ffigyrau diwylliannol mwyaf dylanwadol”.
Ewch i weld DEWIS Nia Morais nawr!