Cafodd 71 sefydliad grantiau gwerth cyfanswm o ryw £4.2 miliwn. Llwyddodd 97% o’r  ymgeiswyr i gael swm llawn eu cais. Amcangyfrifwn y gallai'r gronfa ddiogelu o leiaf 1,800 swydd yng nghelfyddydau Cymru.

Gallai cwmnïau sy'n wynebu anawsterau ofyn am grant i’w digolledu am eu hincwm coll. Gallai hyn gynnwys rhent a diogelwch, gwaith adeiladu hanfodol a chostau gweithio gartref eu staff.

Cynllun Llywodraeth Cymru yw’r gronfa i helpu sefydliadau ac artistiaid ar ôl y pandemig. Roedd £53 miliwn ar gael yn y rownd gyntaf yn Awst 2020 a £30 miliwn arall yn yr ail yn Ebrill 2021. Y Cyngor oedd yn delio â cheisiadau gan sefydliadau celfyddydol.

Mae rhestr lawn o'r grantiau ar gael yma. https://arts.wales/cy/resources/funds-awarded-culture-recover-fund-3

"Mae'r gronfa’n helpu sefydliadau ledled y wlad i oroesi a diogelu cannoedd o swyddi. Wrth i bethau ddechrau ailagor, bydd y rownd yma o grantiau’n gymorth pwysig i'r Celfyddydau ailadeiladu ar ôl y cyfnod cloi."