Clip sain yn trafod lansiad theatr Common/Wealth ar gyfer y cynhyrchiad newydd, Demand The Impossible. Mae'r clip sain wedi cael ei recordio gan Chantal Williams, y Cynhyrchydd Cymunedol, ac mae’n nodi gwybodaeth ar gyfer aelodau'r gynulleidfa sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg. 

Mae Demand the Impossible yn gyfuniad o berfformiadau, cerddoriaeth bync, a phrofiadau synhwyraidd, ac yn archwilio anghyfiawnder yn yr heddlu a threiddiad cudd rhwydweithiau ymgyrchwyr. Mae'n ein herio i gwestiynu gwirionedd, ymddiriedaeth a phŵer, wrth i berthnasoedd anghyfforddus rhwng y wladwriaeth, yr heddlu a dinasyddion gael eu datgelu. 

Mae'r daith gyffwrdd a’r disgrifiad sain ar gael ddydd Iau 9 Hydref yn y sioe am 7pm, yn ogystal â matinee dydd Sadwrn 11 Hydref a’r sioeau gyda’r nos. 

Mae’r teithiau cyffwrdd am ddim ac yn galluogi pobl i archwilio'r gofod perfformio, y set a'r propiau cyn y sioe. Bydd disgrifiad sain yn cael ei ddarparu gan Beth House, aelod proffesiynol profiadol o’r theatr, a bydd yn sicrhau y gall aelodau dall ac sydd â nam ar eu golwg yn y gynulleidfa ymgysylltu â phob rhan o'r sioe a'i mwynhau.

Os oes angen cyfaill, gofalwr neu gynorthwyydd personol arnoch i ddod gyda chi i weld Demand The Impossible - cysylltwch â’r lleoliad i drefnu tocyn am ddim iddyn nhw. Cysylltwch hefyd os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill sy'n ymwneud â mynediad.

Mae tocynnau consesiwn yn rhai dewis eich hun ac yn costio £7. 

I gael gwybod mwy, cysylltwch â chantal@commonwealththeatre.co.uk

Am fwy o wybodaeth am sut mae Common/Wealth yn sicrhau bod Demand The Impossible yn hygyrch, ewch i’w gwefan: https://commonwealththeatre.co.uk/shows/demand-the-impossible