Mae dawnswraig ballet o Gasnewydd a Stadiwm y Principality Cymru yn rhan o ddarn o waith celf cyfoes newydd gan David Mach, artist preswyl byd enwog, i nodi dechrau chwe wythnos o ddathliadau ar gyfer pen-blwydd 25 Mlynedd y Loteri Genedlaethol.

Mae’r collage enfawr sy’n dwyn y teitl ‘United By Numbers: The National Lottery at 25', yn cynnwys cyfuniad o bobl, mannau ac eiconau enwog a llai adnabyddus o fyd y chwaraeon, ffilm, y celfyddydau, cymunedau a threftadaeth. Maent wedi cael eu dwyn ynghyd mewn un ddelwedd eiconig i gynrychioli’r effaith anhygoel y mae’r Loteri Genedlaethol wedi’i gael ar fywyd yn y DU dros y 25 mlynedd diwethaf.

Mae Krystal Lowe, aelod o gwmni Ballet Cymru, yn ymddangos yn y gwaith celf, gan gynrychioli’r effaith mae’r Loteri Genedlaethol wedi’i gael ar y celfyddydau perfformio yng Nghymru. Mae Krystal yn ymddangos ochr yn ochr ag eraill gan gynnwys Idris Elba, Llywodraethwr ar gyfer Sefydliad Ffilm Prydain (BFI) a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, Syr John Major, a lansiodd y Loteri Genedlaethol pan yr oedd yn Brif Weinidog yn 1994; Tracey Emin; Rio Ferdinand; a Betty Webb, torrwr codau o Barc Bletchley yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi cefnogi gyrfa ffynniannus Krystal trwy helpu i dalu am bencadlys Ballet Cymru. Cafodd yr adeilad, sydd ar stad ddiwydiannol ar gyffiniau Casnewydd yn Ne Ddwyrain Cymru, ei droi yn stiwdio ddawns bwrpasol.

Gan wneud sylwadau ar gael ei chynnwys yn y darn celf, dywedodd Krystal Lowe: “Mae’n fraint cael bod yn rhan o’r dathliad arbennig hwn ac ymddangos yn y ddelwedd anhygoel hon. Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi cymorth aruthrol i mi yn fy ngyrfa, ac mae’r adeilad wedi dod yn ganolfan gelfyddydol hefyd sydd wedi gwneud gwahaniaeth anferthol i’r gymuned gelfyddydol yng Nghasnewydd.”

Mae’r casgliad mawreddog o bobl wedi cael eu lleoli yn erbyn cefnlen o leoliadau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol gan gynnwys Stadiwm y Principality Caerdydd. Cafodd £46 miliwn ei godi gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i helpu adeiladu’r stadiwm eiconig, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn ugain oed eleni. Y stadiwm, a ddatblygwyd i gynnal Cwpan Rygbi’r Byd 1999, yw’r grant unigol mwyaf erioed a wobrwywyd gan y Loteri Genedlaethol i brosiect yng Nghymru ac fe’i hystyrir erbyn hyn fel un o stadiymau chwaraeon ac arenâu perfformio gorau’r byd. Mae’r stadiwm yn cwblhau’r cefndir ar gyfer y darn celf ynghyd â cherfluniau The Kelpies yn Yr Alban, arsyllfa Jodrell Bank ym Manceinion a’r cerrig anhygoel yn Sarn y Carn (Giant’s Causeway) yng ngogledd Iwerddon. 

Gan fyfyrio ar yr ysbrydoliaeth ar gyfer y darn newydd hwn, a’i gysylltiadau ei hunan gyda’r Loteri Genedlaethol, dywedodd David Mach: “Am y 25 mlynedd diwethaf, nid oes prin ran o’n bywyd diwylliannol, chwaraeon a chymunedol sydd heb brofi dylanwad positif y Loteri Genedlaethol. Fel rhywun sydd wedi bod yn gysylltiedig ag elusennau a sefydliadau, ac wedi cael gwaith celf wedi’i gomisiynu gydag arian y Loteri Genedlaethol, rwy’n gwybod yr effaith y mae wedi’i gael ar y DU.” 

Dywedodd Dawn Austwick, Cadeirydd Fforwm DU y Loteri Genedlaethol: “Ers lansio’r Loteri Genedlaethol, mae wedi newid bywydau ar draws y DU, gan helpu pobl a lleoedd i ffynnu. Mae’r amrywiaeth o bobl – o fyd y celfyddydau, treftadaeth, elusennau, cymunedau, a chwaraeon – sydd wedi’u cynnwys yn y ddelwedd eiconig hon yn dangos faint o ran o wead bywyd y mae’r Loteri Genedlaethol.”

Dros y chwe wythnos nesaf (16 Hydref – 30 Tachwedd), mae’r Loteri Genedlaethol yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau, digwyddiadau a phrofiadau am ddim ar draws yr holl wlad. Bwriad y dathliadau pen-blwydd 25 mlynedd yw adlewyrchu’r effaith anhygoel mae’r Loteri Genedlaethol wedi’i gael ar ariannu popeth o brosiectau celfyddydol cymunedol a thimau chwaraeon, i fentrau amgylcheddol a chefnogaeth i brosiectau ieuenctid a’r henoed.

Mae gwaith celf newydd David Mach, o’r enw 'United By Numbers: The National Lottery at 25' yn cael ei ddadorchuddio ar 14 Hydref ac yn cael ei arddangos am y diwrnod yn ffenestr Booth & Howarth ar Mauldeth Road, Manceinion, sydd wedi bod yn gwerthu tocynnau’r Loteri Genedlaethol am 25 mlynedd.

Gallwch ddarganfod yr effaith bositif mae chwarae’r Loteri Genedlaethol wedi’i gael ar eich cymuned dros y 25 mlynedd diwethaf trwy edrych ar www.lotterygoodcauses.org.uk  a chymryd rhan trwy ddefnyddio’r hashnod 25 mlynedd: #LoteriGenedlaethol25.