Mae Gwyn Emberton a Jones y Ddawns yn chwilio am ddawnsiwr â hunaniaeth wrywaidd (dan/tua 30) i ymuno â chast rhyng-genhedlaethol, cwiar, Byddar ac yn clywed (Eddie Ladd, Anna Seymour a Gwyn Emberton), ar gyfer eu prosiect newydd Rwy’n Cofio fy Hun (cerddoriaeth gan Sion Trefor).
Contract prosiect llawrydd
- Prosiect Creu a Theithio Orielau
- Yn cynnwys rhywfaint o weithgareddau allestyn
- 4 x wythnos 20 Ebrill - 18 Mai 2026
- £650 yr wythnos
- Per diem x £36 y dydd
- BSL/Cymraeg/Saesneg
Mwy am y prosiect isod.
Am bwy mae Jones y Ddawns yn chwilio:
- Rhywun â hunaniaeth wrywaidd, dan/tua 30
- Ag ymarfer byrfyfyr cryf
- Profiad mewn theatr Dawns/Corfforol
- Yn gyfforddus â gwaith cyfranogol a throchol
- Profiad o weithio gyda chyfranogwyr nad ydynt yn broffesiynol/cymunedol yn fantais
- BSL a/neu’r Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol
- Rhaid bod yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig*
Rhoddir anogaeth arbennig i ddawnswyr sydd/sydd â hunaniaeth LHDTCIA+, sydd yn F/fyddar, a/neu o Gymru/yn byw yng Nghymru.
Dyddiadau’r prosiect:
- Dyddiad cau ceisiadau: Dydd Sul 1 Medi 2025, hanner dydd
- Amser a lleoliad y clyweliad: Dydd Sul 28 Medi, Tŷ Dawns, Caerdydd.
- Sesiwn ffotograffig/Creu Ased 1 Tachwedd yn y bore Lleoliad i’w Gadarnhau
- Ymarferion a chreu (gan gynnwys cynulleidfaoedd prawf): Wythnos 20 a 27 Ebrill a 4 Mai 2026
- Teithio wythnos 11 Mai
Lleoliad:
- Oriel Davies, Y Drenewydd, Powys
- Taith Orielau yng Nghymru: Wythnos yn dechrau 11 Mai
Ffi:
- 4 wythnos @ £650 yr wythnos Cyfanswm: £2,600
- Diwrnod sesiwn ffotograffig £200
A hefyd:
- Per Diem @ £36/y dydd i’r rhai sy’n aros i ffwrdd o gartref
- Teithio @ 45c/y filltir/ teithio rhad ar drafnidiaeth gyhoeddus
- Telir costau llety e.e. aros mewn tŷ a rennir (gyda chyfleusterau coginio) gyda dawnswyr eraill
- Bydd dau gyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain yn bresennol ar gyfer yr ymarferion llawn a’r daith i gefnogi aelodau’r cast
Rhagor am Rwy’n Cofio fy Hun
Mae Rwy’n Cofio fy Hun yn waith dawns dewr, trochol a ddatblygwyd gan Jones y Ddawns, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Artistig Gwyn Emberton, ar y cyd ag Oriel Davies Gallery. Yn rhan o’r prosiect Hunangofiant y Corff, mae Rwy’n Cofio fy Hun yn archwilio’r berthynas rhwng cof, symud a chymuned, gan wahodd cynulleidfaoedd i ailddarganfod eu hanes personol ac ymgysylltu ag adrodd storïau ar y cyd trwy ddawns. Mae’r dull blaengar hwn o ymdrin â dawns gyfoes yn herio fformatau perfformio traddodiadol, gan gynnig profiad cyfranogol lle mae atgofion y gynulleidfa yn cael eu plethu â rhai’r perfformwyr.
Bydd Rwy’n Cofio fy Hun yn cael ei pherfformio yn Gymraeg, Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain, gan sicrhau ei bod yn hygyrch a chynhwysol i gynulleidfa amrywiol.
Gyda phwy y byddwch yn gweithio:
Cysyniad: Gwyn Emberton
Perfformwyr a chyd-grewyr: Eddie Ladd, Anna Seymour, Gwyn Emberton
Cerddoriaeth: Sion Trefor
Dylunio: Lois Prys
Cyfarwyddwr Ymarferion: Eli Williams
Cynhyrchydd gweithredol: Kate Perridge
Cynhyrchydd Creadigol: Kama Roberts
Mae’r gwaith yn cael ei wneud ar y cyd ag Oriel Davies Gallery, Y Drenewydd a gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad y Teulu Ashley.
Hygyrchedd a chynhwysiant
Bydd Rwy’n Cofio fy Hun yn teithio Cymru ym Mai 2026, gan berfformio mewn orielau a mannau cyhoeddus. Trwy ganolbwyntio ar gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol – B/byddar, nam ar y golwg, ieuenctid LHDTCIA+, a phoblogaeth wledig – mae Rwy’n Cofio fy Hun yn ceisio chwalu rhwystrau sy’n atal pobl rhag cael mynediad at ddawns, gan gynnig lle a rennir i bobl gysylltu â’u cyrff a gyda’i gilydd. Nod y prosiect yw creu perthnasau parhaus mewn cymunedau, gan sicrhau bod dawns yn dod yn offeryn ar gyfer gwella, grymuso a chof ar y cyd.
Bydd y gwaith a’r fethodoleg yn defnyddio neu yn datgelu hanesion personol a all ysgogi ymateb. Bydd hyn yn cael ei drafod a’i archwilio yn y broses glyweld ac oherwydd natur sensitif bosibl hyn nid ydym yn disgwyl i’r gwaith hwn fod i bawb. Os byddwch yn penderfynu nad yw i chi, ni fydd hyn yn eich allgau rhag posibiliadau yn y dyfodol.
Mae Jones y Ddawns wedi ymrwymo i greu amgylchedd gwaith cynhwysol, teg a hygyrch lle mae pawb yn teimlo ymdeimlad gwirioneddol o berthyn. Rydym yn weithredol yn annog ceisiadau gan bobl o’r Mwyafrif Byd-eang, unigolion B/byddar a/neu anabl, cymunedau LHDTCIA+, siaradwyr neu ddysgwyr Cymraeg, pobl o gefndiroedd difreintiedig yn economaidd a’r rhai sydd â phrofiad personol nad yw’n cael ei gynrychioli’n ddigonol yn y celfyddydau ar hyn o bryd.
Proses ymgeisio:
(Os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd neu bod arnoch angen y deunyddiau ymgeisio mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni a byddwn yn anelu at wneud y trefniadau angenrheidiol.)
Anfonwch eich cais at Kate yn kate@jonesthedance.com rhowch ‘Cais Rwy’n Cofio fy Hun’ fel pwnc).
Dylai eich cais gynnwys:
- Eich CV 2 dudalen
- Llythyr esboniadol, uchafswm o 2 dudalen yn Gymraeg neu Saesneg, neu fideo 6 munud yn Iaith Arwyddion Prydain.
- Yn y llythyr esboniadol, esboniwch pam y byddech yn hoffi bod yn rhan o’r prosiect hwn ac amlinellu eich profiad perthnasol. RHAID i chi gynnwys gwybodaeth am eich cymhwysedd i weithio yn y Deyrnas Unedig.
- PEIDIWCH AG ANFON DELWEDDAU NA FIDEOS - Byddwn yn rhedeg proses wahodd ddienw, felly bydd eich manylion personol yn cael eu tynnu cyn i’r cyflwyniadau gael eu hadolygu gan y panel i lunio rhestr fer (darllenwch fwy am hyn isod)**
- Anfonwch wybodaeth am eich gofynion hygyrchedd neu eich dogfen ddisgrifio eich anghenion cyn y clyweliad.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: dim hwyrach na dydd Sul 1 Medi 2025, hanner dydd.
Ymatebion i’r holl geisiadau: erbyn dydd Llun 9 Medi.
Clyweliad: Dydd Sul 28 Medi (9am i 6pm) yn Tŷ Dawns, Caerdydd.
Fel cwmni prosiect bychan, yn anffodus nid ydym yn gallu talu eich costau teithio a llety ar gyfer y clyweliad.
*Cymhwyster i weithio yn y Deyrnas Unedig:
Rydym yn croesawu ceisiadau gan artistiaid rhyngwladol sy’n gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig dan y llwybr fisa Ymrwymiad a Ganiateir â Thâl. Mae’r llwybr hwn yn caniatáu i lawer o berfformwyr rhyngwladol gymryd gwaith â thâl am dymor byr yn y Deyrnas Unedig heb fod angen fisa gweithio llawn.
Sylwer:
● Dim ond ceisiadau gan bobl o genhedloedd dim-fisa sy’n gymwys i’r llwybr Ymrwymiad a Ganiateir â Thâl (e.e. dinasyddion yr UE, UDA, Canada, Awstralia, Siapan) y gallwn eu hystyried.
● Nid ydym yn gallu cefnogi ceisiadau fisa mwy cymhleth na thalu costau teithio rhyngwladol.
● Byddwn yn darparu llythyr gwahodd ffurfiol ac unrhyw ddogfennau angenrheidiol i gefnogi i ymgeiswyr cymwys.
● Os nad ydych yn sicr am eich cymhwyster, rydym yn barod iawn i’ch cynghori – cysylltwch.
**Proses ymgeisio ddall
Rydym yn anelu at redeg proses wahodd ddienw a byddwn yn dethol dawnswyr i’w clyweld ar sail y wybodaeth y byddwn yn ei derbyn mewn CV a llythyr esboniadol/neu fideo Iaith Arwyddion Prydain dienw. Felly PEIDIWCH ag anfon fideos dawns na gwaith byrfyfyr.
Bydd yr holl geisiadau cychwynnol yn cael eu gwneud yn ddienw ac yna eu hadolygu mewn cymhariaeth â meini prawf penodol, gyda’r ymgeiswyr yn cael eu gwahodd ar sail eu CV a bywgraffiadau.