Mae Ballet Cymru wedi'i leoli yn Nhŷ-du, Casnewydd, ac mae wedi bod yn cynnal cyrsiau dawns dwys yng Nghymru ers dros ugain mlynedd. Mae'r Cwmni'n cynnig dwy raglen ddawns wych, a gynhelir yn Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd yr haf hwn;
DAWNS HAF CYMRU 2024
Dydd Llun 22 Gorffennaf i ddydd Gwener 26 Gorffennaf 2024
Bydd y cwrs yn rhedeg bob dydd rhwng 9.30am a 5.00pm.
Bydd y perfformiad ddydd Gwener 26 Gorffennaf rhwng 4.00pm a 5.00pm.
Ymunwch â ni ar y cwrs dwys hwn sy'n wythnos o hyd, lle bydd dosbarthiadau'n cael eu haddysgu gan ddawnswyr proffesiynol y cwmni. Mae’r cwrs yn cynnwys dosbarth ar dechneg ballet, repertoire ballet y cwmni a choreograffi creadigol newydd.
YSGOL HAF BALLET RHYNGWLADOL CYMRU 2024
Dydd Llun 29 Gorffennaf i ddydd Gwener 2 Awst 2024
Bydd y cwrs yn rhedeg bob dydd rhwng 9.30am a 5.30pm.
Bydd y perfformiad ddydd Gwener 2 Awst rhwng 6.00pm a 7.00pm.
Mae ein cwrs dwys proffesiynol dros yr haf, sef Ysgol Haf Ballet Rhyngwladol Cymru (WIBSS), yn cael ei gynnal yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon. Ymunwch â ni ar y cwrs dwys hwn sy'n wythnos o hyd, lle bydd dosbarthiadau'n cael eu haddysgu gan gyfarwyddwyr y cwmni ac athrawon gwadd, a’rrepertoire dan arweiniad dawnswyr proffesiynol y cwmni. Byddwn hefyd yn croesawu Marcus Jarrell Willis, Cyfarwyddwr Artistig y Phoenix Dance Theatre, yn ôl, a fydd yn creu gwaith newydd ar gyfer y rhai a fydd yn cymryd rhan yn Ysgol Haf Ballet RhyngwladolCymru.
Mae’r cwrs yn cynnwys dosbarth ar dechneg ballet, repertoire ballet a choreograffi newydd, ynghyd â gwaith pointe ychwanegol, hyfforddiant ar dechneg, pas de deux, cyfoes, cyflyru ac ymestyn. Nid yw'n ofynnol cael unrhyw brofiad o waith pointe ar gyfer y cwrs hwn.
PERFFORMIAD AM DDIM!
Bydd y gwaith a fydd yn cael ei greu yn ystod yr wythnos yn cael ei berfformio ar ddiwrnod olaf pob cwrs. Bydd y perfformiad hwn ar y prif lwyfan yn Theatr Glan yr Afon,a bydd yn rhad ac am ddim i deulu a ffrindiau sydd am fod yn bresennol.
TO APPLY
Rhaid i gyfranogwyr wneud cais am le ar y cwrs a dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael. Anogwn ymgeiswyr i wneud cais cynnar er mwyn. Rhaid i bob ymgeisydd lenwi cwrs.
Rhaid cyflwyno ceisiadau cyn dydd Gwener 28 Mehefin 2024
Mae Ballet Cymru yn ymdrechu i fod yn gwmni cynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan ddawnswyr ag anableddau neu'r rheiny sydd â nodweddion gwarchodedig.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses o wneud cais, anfonwch neges e-bost at louiselloyd@welshballet.co.uk.
Os nad oes gennych brofiad blaenorol o ballet ond yr hoffech ymgysylltu â'r cwmni, cysylltwch â ni. Mae gennym sesiwn ballet gynhwysol wythnosol, sef Ballet Cymru 3, a gweithgareddau eraill y byddem wrth ein bodd yn eu cynnig.