Mae gan Frân Wen dau gyfle cyffrous newydd i wneuthurwyr theatr.
P'un a ydych chi'n artist ifanc 18-30 oed sy'n barod i greu profiadau awyr agored, neu'n artist profiadol gyda 20+ mlynedd o brofiad.
1. Datblygu sioe Eisteddfod '26 [18-30 oed]
Rydym yn parhau i gydweithio efo'r Eisteddfod i gefnogi artistiaid ifanc sydd yn awchu i ddatblygu sioe wedi'u teilwra ar gyfer gwyliau a gwaith awyr agored.
Mae'r cyfle yma yn benodol ar gyfer artistiaid rhwng 18 a 30 oed. Dyddiad cau 28 Hydref.
2. Fy Arddegau Radical [20+ mlynedd o brofiad]
Ydych chi'n artist gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant, yn barod i ail-ymgysylltu â'ch hunan fel person ifanc radical?
Ydych chi eisiau herio rhagfarn ar sail oedran a'r cwestiwn ynghylch pwy sy'n cael bod yn radical?
Mae'r cyfle yma yn cynnwys ffi a chymorth proffesiynol ag adnoddau. Dyddiad cau 28 Hydref.