Pa ffordd well o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi na gwrando ar Gorws a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio cerddoriaeth gyffrous gan gyfansoddwyr eiconig o Gymru?
Bydd y cyngerdd yn cael ei gynnal yn Neuadd Brangwyn, Abertawe am 7:30PM ddydd Iau 29 Chwefror, i ddathlu pen-blwydd un o gyfansoddwyr enwocaf Cymru, Syr Karl Jenkins, yn 80 oed. Ganed Karl Jenkins yn Abertawe ac mae’n enwog am fod yn un o’r cyfansoddwyr byw mwyaf poblogaidd yn y byd. Mae’r cyngerdd hwn yn cynnwys y perfformiad cyntaf erioed o Stravaganza, ei goncerto i’r sacsoffon a gyfansoddwyd ar gyfer y sacsoffonydd syfrdanol, Jess Gillam, ac a fydd yn cael ei berfformio ganddi.
Mae Stravaganza yn archwilio themâu'r carnifal a ffantasi ysblennydd mewn pedwar symudiad, gyda naws ecsentrig a hynod yn treiddio drwy'r cyfan. Mae’r unawdydd y concerto, Jess Gillam, wedi bod yn torri ei chwys anturus ei hun ers iddi ddod yn enwog fel y sacsoffonydd cyntaf i gyrraedd rownd derfynol Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC. Hi yw’r unawdydd ieuengaf erioed i berfformio yn Noson Olaf Proms y BBC.
Bydd BBC NOW hefyd yn dathlu 90 mlynedd ers geni William Mathias gyda’i Agorawd Gwyliau, a gyfansoddwyd yn 1971 ar gyfer BBC NOW, ac ni fyddai’n Ddydd Gŵyl Dewi heb ychydig o ganu, felly bydd Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC a Chôr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn hawlio’r llwyfan i berfformio Dewi Sant gan Jenkins, a medli o’ch hoff alawon Cymreig. Helpwch ni i godi’r to ar ein diwrnod cenedlaethol drwy ymuno yn y canu. Dan arweiniad yr arweinydd Eidalaidd/Twrcaidd, Nil Venditti, mae’r cyngerdd hwn yn argoeli i fod yn achlysur gwefreiddiol i’r rheini sydd wedi gwirioni ar gerddoriaeth Cymru!
Mae prisiau tocynnau’n dechrau o £5 i fyfyrwyr a phobl sy’n 26 oed neu’n iau, ac maent ar gael i’w prynu drwy wefan Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.