Mewn partneriaeth â Chyfeillion y Glynn Vivian

Glynn Vivian gyda’r Hwyr, nos Wener 22 Mawrth 2024, 5:30pm – 8:00pm  

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch iawn o fod yn dathlu 25 mlynedd ers sefydlu Gwobr Wakelin gydag arddangosfa ôl-weithredol a fydd yn dod â gwaith enillwyr y gorffennol at ei gilydd.

Mae’r wobr flynyddol a sefydlwyd er cof am yr artistiaid Richard a Rosemary Wakelin o Abertawe, yn cael ei rhoi i artist sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, y caiff ei waith ei brynu ar gyfer casgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.

Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys Robert Harding, David Tress, Pete Davis, Craig Wood, David Garner, Tim Davies, Dick Chappell, Brendan Stuart Burns, Anthony Shapland, Catrin Webster, Jonathan Anderson, Meri Wells, David Cushway, Helen Sear, Clare Woods, Alexander Duncan, Philip Eglin, Richard Billingham, Anya Paintsil, Cinzia Mutigli ac Ingrid Murphy.

Meddai Dr Peter Wakelin,

“Pan sefydlom y wobr ar ôl i fy mam farw ym 1998, roeddem yn credu y byddai’n rhywbeth y byddai ein rheini wedi’i mwynhau gan eu bod yn dwlu ar y Glynn Vivian, ac y byddai’n para am ychydig flynyddoedd. Ni feddyliom erioed y byddai’r cynllun yn parhau i fod mor werth chweil ar ôl chwarter canrif. Mae’n wych edrych nôl ar yr artistiaid y mae’r Wobr wedi’u cefnogi yn yr amser hwnnw a’r cyfoeth o waith sydd wedi cael ei ychwanegu at gasgliad y Glynn Vivian i’w fwynhau gan bobl Abertawe.”

Ychwanegodd Louise Burston, Cadeirydd Cyfeillion y Glynn Vivian,

“Mae’r Cyfeillion yn falch iawn o fod yn ymwneud â gwobr mor nodedig. Mae’n galonogol gallu cefnogi artistiaid o Gymru a chyfrannu tuag at gasgliad celf gyfoes yr oriel, ac mae hefyd yn ddiddorol iawn gweld gwaith pwy y bydd y detholwr enwebedig yn ei ddewis. Dros y blynyddoedd, mae’r wobr wedi cael ei rhoi i ddetholiad aruthrol o amrywiol o artistiaid o ddisgyblaethau gwahanol ac ar gamau gwahanol yn eu gyrfaoedd.”

Meddai Karen Mackinnon, Curadur, Oriel Gelf Glynn Vivian,

“Mae Gwobr Wakelin wedi galluogi’r oriel i gaffael celfweithiau gwych ar gyfer ei chasgliad parhaol dros y 25 mlynedd diwethaf. Mae’r bartneriaeth unigryw rhwng y teulu Wakelin a Chyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian yn arbennig iawn o ran y gefnogaeth mae’n ei chynnig i’r oriel, artistiaid yng Nghymru a’r gweithiau y mae’n ein galluogi i’w rhannu â chynulleidfaoedd a chymunedau. Mae’r arddangosfa hon yn ddathliad o’r hyn y mae’r wobr wedi’i chyflawni dros gynifer o flynyddoedd.”

Gweinyddir a chefnogir y wobr gan Gyfeillion y Glynn Vivian ac fe’i hariennir drwy roddion er cof am Richard a Rosemary Wakelin.