Mae’r nodwedd PRINT, dathliad digidol o gylchgronau Cymru ar AM, yn ôl!

 

Dros gyfnod o bedwar diwrnod mae modd mwynhau erthyglau, podlediadau a fideos gan gylchgronau cyffrous o Gymru ar dudalen flaen AM; yn cynnwys Planet, Hanes Byw a NAWR. Mi allwch hefyd gefnogi’r cylchgronau drwy danysgrifio a phrynu o’n adran siop arbennig.

 

Meddai Damian Kerlin o’r cylchgrawn newydd Material Queer:

 

“Daeth Material Queer i fywoliaeth ar ôl gorfod pori drwy gylchgrawn LHDTQ+ poblogaidd er mwyn dod o hyd i erthygl am ein diwylliant, yn hytrach na’r newyddion. Mae’n rhaid bod yna ffordd well o ddathlu a gwthio ein diwylliant i’r blaen. Rydw i’n ymwybodol bod y byd cyhoeddi yn dioddef ar hyn o bryd o or-greu cynnwys dim ond er mwyn creu cynnwys, felly ei bod hi’n anodd i waith gan rai sydd yn dechrau ar eu gyrfaoedd i ffynnu. Mae niferoedd cynnwys yn uwch nag erioed, ond tydy cynulleidfaeodd erioed wedi teimlo mor digysllwt. Mae’n achos o flaenoriaethu niferoedd dros ansawdd.

 

Sut ydyn ni’n sicrhau bod gwaith o ansawdd yn cael ei bwsio i’r top - wel AM, wrth gwrs. Mae cael nid yn unig platfform arbennig i hyrwyddo’r diwydiant creadigol yng Nghymru i’r byd, ond platfform sydd wedi adeiladu ardaloedd penodol i gefnogi diwydiannau gwahanol i ffynnu, megis PRINT, heb aberthu’r ansawdd yn rhywbeth hynod bwysig sydd angen cael ei drysori.”

 

Mwynhewch, tanysgrifiwch a chefnogwch cylchgronau Cymru drwy ymweld â PRINT ar dudalen flaen AM Dydd Iau! (26-29/10/2023)