Croesawodd Cyngor Celfyddydau Cymru y cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru am ei chynlluniau gwariant arfaethedig ar gyfer 2025/26 a'r gyllideb ychwanegol i’r Celfyddydau.
Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys cynnydd ariannol i Gyngor Celfyddydau Cymru sy’n golygu ei fod yn cael £33.314 miliwn. Mae’r swm newydd yn uwch na'r cynnydd o 3.6% a oedd yng nghyllideb ddrafft Rhagfyr, ac yn dychwelyd y Cyngor i lefel ariannu 2023/24 cyn y toriad y llynedd o 10.5% yn ei gyllideb.
Mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw, dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Rydym yn falch bod y Gweinidog dros Ddiwylliant, Jack Sargeant, wedi gwrando ar bryderon sector y celfyddydau ac wedi llwyddo i gyflwyno'r achos i'r Cabinet dros roi rhagor o arian i'r celfyddydau a diwylliant. Mae’n arwydd da i'r sector fod y Llywodraeth yn gwerthfawrogi’r celfyddydau. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y lefel ariannu sylfaenol yma yn y blynyddoedd i ddod.
"Ar hyn o bryd rydym yn edrych yn fanwl ar ein cyllideb flynyddol i weld sut orau i ariannu’r sector gyda'r lefel newydd arfaethedig o arian sydd yn y cyhoeddiad heddiw. Bydd y cynnydd ariannol yn gymorth i wella gwytnwch y Cyngor ei hun. Bydd hefyd yn fodd inni gynnig rhagor o arian a chyfleoedd i'r sefydliadau celfyddydol a’r artistiaid lu sy'n creu Cymru o ddiwylliant ffres a chymunedau bywiog."