Ym mis Rhagfyr eleni, gallwch weld cydweithrediad gwych mewn ffilm animeiddiedig Gymreig - am y tro cyntaf ar y sgrin fawr!

Mae FILM FROM SCRATCH yn ffilm fer wedi’i hanimeiddio a gynhyrchwyd gan Gritty Realism Productions, sy’n cyfuno clipiau sinema amatur ac animeiddiadau creu a chrafu i amlygu casgliad a gwaith cynhwysfawr Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

Mae’r animeiddiad yn gydweithrediad sy’n cynnwys cyfranogwyr gweithdai o amrywiaeth o gefndiroedd a meysydd, yn amrywio o bobl ifanc yng Nglan-yr-afon, Caerdydd a Senghenydd i israddedigion Animeiddio o Brifysgol De Cymru.

“Hyd y gwn i, nid yw crafu ar animeiddiad ffilm a ffilm archif erioed wedi’u cyfuno â’i gilydd fel hyn o’r blaen. Mae’r ffilm yn datgelu hanes ffilm yng Nghymru mewn ffordd newydd, gan gyfuno delweddau a cherddoriaeth mewn fformat deniadol.”

Gerald Conn, Gritty Realism Productions

I gyd-fynd â’r ffilm creu a chrafu gydweithredol, mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd wedi llunio rhaglen o ffilmiau byr deinamig wedi’u hanimeiddio sy’n defnyddio’r un dechneg creu a chrafu.

Ymunwch â ni yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter ar ddydd Sul 15 Rhagfyr am 4pm i weld y rhaglen o ffilmiau a thrafodaeth holi ac ateb gyda Gritty Realism.

I ddarganfod mwy ac archebu tocynnau: