Cronfa gwerth £5 miliwn gan y Loteri Genedlaethol yw Cysylltu a Ffynnu. Ei nod yw ariannu prosiectau cydweithiol rhwng sefydliadau, unigolion a gweithwyr creadigol. Cyhoeddwyd canlyniad y rownd gyntaf yn Rhagfyr 2020. Agorodd yr ail rownd ganol Chwefror. Cymeradwyodd y Cyngor grantiau’r ail rownd ar 14 Mai.

Rhoddwyd cyfanswm o £2,619,000 i 23 prosiect. Cawsom 149 cais yn gofyn am £10,860,000 sy’n 33% rhagor nag yn rownd 1. Roedd lefel yr ymgeisio’n dangos brwdfrydedd artistiaid a sefydliadau celfyddydol i ymgysylltu â'r cyhoedd. Ond roedd yn rhaid inni wneud dewisiadau anodd rhyngddynt.

Mae Cysylltu a Ffynnu yn cynnig grantiau rhwng £500 a £150,000 i brosiectau sy’n hyrwyddo cydweithio rhwng sefydliadau celfyddydol ac artistiaid â gwahanol bartneriaid gan gynnwys rhai y tu allan i'r sector. Roeddem ni am glywed syniadau newydd i gefnogi artistiaid yr ochr draw i’r pandemig a datblygu’r sector i adlewyrchu’n well ein pobl a’n cymunedau. Canolbwyntiai rownd 2 ar gefnogi sefydliadau, gweithwyr creadigol a chymunedau i gydweithio a chreu cyfleoedd i bobl fwynhau a gweithio yn y celfyddydau a chymryd rhan ynddynt.

Roeddem ni am gynyddu hygyrchedd a chlywed lleisiau nad oeddynt i’w  clywed o'r blaen. Mae'r prosiectau a ariannwyd yn gam tuag at gyflawni hynny.

Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am yr arian a godant bob wythnos at achosion da. Gyda’r arian gallwn ddatblygu cyfleoedd i bobl fwynhau'r celfyddydau. Mae Cysylltu a Ffynnu eisoes wedi newid y ffordd y mae pobl yn creu celfyddyd a chymryd rhan ynddi. Mae'n unioni tangynrychiolaeth a hyrwyddo dull cydweithiol o greu.

"Yn rownd 1 roedd y prosiectau yn gwella hygyrchedd a chynrychiolaeth i artistiaid anabl, Cymraeg, duon, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig. Ein bwriad yw cynyddu’r gweithgarwch yn y meysydd yma. Mae Cysylltu a Ffynnu yn gweddnewid y sefyllfa. Roedd grantiau rownd 2 yn canolbwyntio hefyd ar roi arian i ardaloedd difreintiedig.

"Roedd nifer fawr o geisiadau ac nid oedd digon o arian i bawb. Bydd rhai felly’n siomedig. Ond byddwn ni’n ystyried sut y gall rowndiau’r dyfodol ddiwallu’r diddordeb eang hwn."

Am restr lawn o'r grantiau: cliciwch yma