ARCHEBWCH EICH TOCYNNAU AM DDIM YMA 

 

PONTIO Bangor   

IONAWR 14, 2024  

6-8pm    

MAE’R ARDDANGOSFA RYNGWEITHIOL YN AGOR O 5:30PM   

Ymgollwch mewn Symudiad, Clai, Ffilm, Paent a Sain wrth i ni rannu ein prosiect unigryw a chyffrous.   

  Dewch i SEINIWCH EICH LLAIS - CAEL EICH CLYWED - AILGYSYLLTU - GWELLA!...    

dewch i gael hwyl a chael eich herio gan ein syniadau ar gyfer cefnogi gwell iechyd meddwl drwy gyfres o gelfyddydau creadigol fel rhan o raglen presgripsiynu cymdeithasol!   

   

Credwn fod gogledd Cymru ar flaen y gad wrth gynnig presgripsiynu cymdeithasol fel llwybr amgen i feddyginiaeth  

Gwahoddwn bawb sydd wedi’u heffeithio gan anawasterau gydag iechyd meddwl gwael – gan gynnwys aelodau o’r teulu a’r rhai sydd ynghlwm â’r broses atgyfeirio, o feddygon teulu i gynghorwyr lleol – i ddod i brofi’n bersonol sut allai enfys Cysylltu wella’r rhaglen presgripsiynu cymdeithasol.  

Daeth yr amser i gydnabod y cyfraniad pwerus y gall y celfyddydau ei wneud i’n hiechyd a’n llesiant”…. Adroddiad Seneddol Traws-bleidiol ar Iechyd Creadigol 2017   

Roedd llawer yn teimlo unigedd yn ystod Covid, a dyna fu profiad sawl un sy’n brwydro gydag iechyd meddwl gwael.     

   

Mae gan bob un o’r artistiaid sy’n rhan o’r prosiect hwn, gan  brofiad personol o frwydro fel hyn...