Rydym  yn  chwilio am unigolyn dibynadwy a brwdfrydig i ymuno â'n tîm Cyfres Glasurol Caerdydd fel  Cynorthwyydd Cymorth Prosiect, i helpu i gyflwyno  gweithdai cerddoriaeth personol diddorol i bobl ifanc ymhob rhan o’r gymuned. 
 
Mae'r gweithdai hyn yn dod â cherddoriaeth glasurol ac arbrofol i leoliadau hygyrch, cynhwysol, gan gynnig cyfleoedd newydd  i bobl ifanc archwilio cyfansoddi a gwahanol fydoedd sain. 
 
Rydym yn chwilio am rywun sy'n angerddol am weithio gyda phobl ifanc a chefnogi profiadau dysgu creadigol. 

Cyfrifoldebau’r Rôl 
Fel Cynorthwyydd Cymorth Prosiect, byddwch chi’n chwarae rhan allweddol mewn cynnal gweithdai’n ddidrafferth. Bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys: 
• Gosod a chlirio mannau gweithdy 
• Croesawu a thywys tiwtoriaid a chyfranogwyr i'r mannau cywir 
• Sicrhau bod yr holl diwtoriaid a chyfranogwyr yn ymwybodol o brotocolau gweithdy neu leoliadau perthnasol 
• Cefnogi'r tiwtor yn ystod sesiynau yn ôl yr angen 
• Darparu  adborth  i  Actifyddion  Artistig ar  bob  sesiwn  (e.e.  nifer  y  cyfranogwyr, cynnwys y gweithdy, unrhyw faterion neu uchafbwyntiau, adborth gan diwtoriaid/cyfranogwyr) 
• Lle bo’n briodol, tynnu lluniau neu fideo i helpu i gofnodi’r gweithdai 
• Adrodd yn  uniongyrchol i'r Dirprwy Reolwr Cymunedau, Dysgu a Phartneriaethau yn Actifyddion Artistig 
 
Yr Hyn Rydyn Ni'n Chwilio Amdano - Hanfodol 
• Agwedd gyfeillgar, broffesiynol a hawddgar 
• Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc 
• Yn fodlon  ac yn gallu cael Gwiriad GDG (gallwn drefnu hyn os nad yw wedi’i gynnal eisoes) 
• Diddordeb mewn cerddoriaeth glasurol a/neu arbrofol 
• Ar gael ar amseroedd hyblyg, gan gynnwys rhywfaint o waith penwythnos 
• Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant lle bo angen (e.e. Amddiffyn Plant, Iechyd a Diogelwch) 
• Y gallu i weithio ar draws gwahanol leoliadau yng Nghaerdydd 
• Agwedd ragweithiol sy’n canolbwyntio ar atebion 
• Yn hapus i weithio’n annibynnol ac yn rhan o dîm 
• Rhaid bod dros 18 oed 
 
Sgiliau a Phrofiad Dymunol 
• Profiad o weithio gyda phobl ifanc niwrowahanol 
• Cefndir mewn cerddoriaeth neu addysg gerddoriaeth 
• Profiad o gefnogi neu gyflwyno gweithdai cerddoriaeth 
• Sgiliau Cymraeg (llafar neu ysgrifenedig) 
 
Oriau Gwaith Enghreifftiol 
• Un dydd Sadwrn y mis: 9:30am – 3:30pm 
• Un wythnos fesul tymor academaidd: Dydd Llun i Ddydd Iau, 9:30am - 2:00pm 
 
Mae'r rôl hon yn rhedeg yn bennaf o fis Hydref 2025 i fis Gorffennaf 2026, gyda'r potensial ar gyfer cyfleoedd parhaus yn rhaglenni Cyfres Glasurol Caerdydd yn y dyfodol.  
 

Dyddiad cau: 03/10/2025