Rydym yn falch iawn o gael rhoi’r newyddion diweddaraf am ein cynllun cyffrous ar y cyd â’r Wooran Foundation yn Seoul! Mae Meet Fred sioe a gychwynnodd ar gyllideb dynn iawn yn Rhydaman yn ôl yn 2016, yn parhau i esblygu a’n synnu ni. Ar ôl teithio bron i 300 o sioeau ar draws 131 o ddinasoedd mewn 19 gwlad, mae Fred wedi dod yn rhyfeddod byd-eang gwirioneddol.

Nid hwn yw ymddangosiad cyntaf Fred yn Ne Korea chwaith. Yn ôl yn Ionawr 2019, roedd y cynhyrchiad gwreiddiol yn amlwg yn nhymor agoriadol Canolfan Celfyddydau a Diwylliant yr Anabl Korea. Yn awr rydym yn dychwelyd gyda diben arloesol: gweithio gyda’r Wooran Foundation i greu fersiwn Goreaidd lawn o’r sioe. Mae’r cyfle yn anrhydedd anhygoel ac mae’r anturiaethau niferus y mae’r pyped bach wedi ein harwain arnyn nhw yn ein gwneud yn wylaidd iawn.

I’r rhai sy’n anghyfarwydd â Meet Fred, mae’r sioe yn adrodd hanes pyped dwy droedfedd o daldra o ddefnydd o’r enw Fred, sy’n cael trafferth cadw rheolaeth ar ei fywyd wrth iddo wynebu heriau byw mewn byd sy’n ei drin fel dim byd mwy na ffabrig. Gyda hiwmor, calon ac ychydig o’r absẃrd, mae Meet Fred yn archwilio beth mae’n ei olygu i fod yn ‘wahanol’ mewn byd sy’n rhoi gwerth ar gydymffurfio. Trwy daith Fred gwahoddir y gynulleidfa i ystyried materion ehangach fel urddas dynol, annibyniaeth a’r rhwystrau biwrocrataidd y mae pobl ag anableddau’n eu hwynebu.

Mae’r sioe yn gyd-gynhyrchiad rhwng Hijinx a Blind Summit Theatre, ac yn cynnwys cyfuniad unigryw o waith pypedau a theatr sy’n dod â threialon a buddugoliaethau Fred yn fyw. Mae taith Fred i geisio cadw ei urddas a’i annibyniaeth yn llawn o gyfnodau o chwerthin yn uchel, ond hefyd neges bwysig y mae gan gynulleidfaoedd trwy’r byd gydymdeimlad â hi.

Yn gynharach eleni, ym mis Chwefror, teithiodd tîm bychan – ynghyd â Chyfarwyddwr Artistig Blind Summit a’r cyd-sylfaenydd Mark Down – i Dde Korea i redeg clyweliadau gweithdy. Roedd y dalent y gwnaethom ei gweld yn rhyfeddol, ac fe lwyddwyd i ddod o hyd i’n cast yn rhwydd, gan gynnwys tair rhan ar gyfer actorion ag anableddau dysgu. Roedd yn broses wnaeth ysbrydoli, ac rydym wedi cyffroi o weld y grŵp talentog hwn yn dod â stori Fred yn fyw i gynulleidfa yn Korea.

Y mis hwn mae Ben yn arwain ymarferion gyda’r ensemble newydd, ynghyd â Dan McGowan, llais gwreiddiol Fred. Bydd y cynhyrchydd Ellis Wrightbrook yn ymuno â nhw yn fuan a’r rheolwr cynhyrchiad Tom Ayres, wrth i’r tîm baratoi ar gyfer y perfformiadau yn Seoul.

Allwn ni ddim aros i gael rhannu pennod nesaf stori Fred gyda chi. Mae wedi bod yn daith anhygoel hyd yn hyn, ac rydym wedi cyffroi yn fawr am y fenter newydd hon ar y cyd â’r Wooran Foundation. Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am gip tu ôl i’r llenni a newyddion am y prosiect. Ac os ydych yn digwydd bod yn Seoul rhwng 19 a 31 Hydref, gofalwch fynd i weld Meet Fred yn Art Scape 2!

Mae tocynnau ar gael yma.