Mae Theatr Iolo – cwmni theatr plant mwyaf blaenllaw Cymru – yn cynhyrchu sioe deithiol newydd sbon sy’n dathlu llinach ddu Prydain, gan ddefnyddio stori fytholegol y ddraig Gymreig.

Wedi'i hysgrifennu gan Kyle Lima, mae The Welsh Dragon yn sioe chwedlonol hanesyddol i blant, sy'n asio cerddi, rhigwm, cerddoriaeth a rap. Bydd yn herio cynulleidfaoedd o bob oed i gwestiynu’r straeon a drosglwyddir o genhedlaeth i genhedlaeth.

Bydd y sioe yn agor yn Chapter yng Nghaerdydd ar 7 Hydref 2024 cyn teithio i naw lleoliad ar draws de Cymru.

Pan fydd muriau castell Cymreig yn dechrau dadfeilio oherwydd y ddwy ddraig sy'n byw yn y daeardy, dim ond rhywun o dras Gymreig pur all atal y frwydr... ond sut yn union ydych chi'n gwybod a yw rhywun yn Gymro neu beidio?

Mae The Welsh Dragon yn plethu’r chwedl Gymreig adnabyddus â gwirioneddau cudd hanesyddol i archwilio hunaniaeth, ethnigrwydd a tharddiad bywyd dynol ar Ynysoedd Prydain.

Dywedodd yr awdur, Kyle Lima: “Roeddwn i wir eisiau chwalu’r confensiynau a’r rhagdybiaethau y mae pobl yn aml yn eu gwneud ynglŷn â beth yw Prydeinwyr a Chymry. Roeddwn i eisiau eu rhoi o'r neilltu a chadarnhau’r gwir am darddiad pobl Prydain; dydyn nhw ddim i gyd yn wyn ac fe ddaethon nhw o lawer o lefydd gwahanol.”

Dywedodd Lee Lyford, Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr Theatr Iolo: “Mae chwedloniaeth yn rhan annatod o adrodd straeon plant, ond fe all ac fe ddylai cynulleidfaoedd ifanc glywed y gwir y tu ôl i’r chwedlau rydyn ni’n eu hadrodd, a chael eu gwahodd i gwestiynu’r chwedlau hynny. Mae drama Kyle yn gwneud hyn gydag egni anhygoel, ymdeimlad enfawr o hwyl ac hoffter gwirioneddol at y ddraig ar faner genedlaethol Cymru.”

Caiff The Welsh Dragon ei chyfarwyddo gan Ewa Dina a’i dylunio gan Kyle Legall. Y cyfansoddwr yw Eadyth Crawford. Bydd y cast yn cael ei gadarnhau yn ddiweddarach yn yr haf.

Dyddiadau a Lleoliadau Teithiau



7-9 Hydref 2024

Chapter, Caerdydd

11 Hydref 2024

Y Met, Abertyleri

14 Hydref 2024

Y Neuadd Les, Ystradgynlais

15-16 Hydref 2024

Canolfan Celfyddydau Pontardawe

18-19 Hydref 2024

Glan yr Afon, Casnewydd

23 Hydref 2024

Canolfan y Memo, Y Barri

25-26 Hydref 2024

Canolfan Gelfyddydau'r Miwni, Pontypridd

29 Hydref 2024

Ffwrnes, Llanelli

31 Hydref 2024

Theatr Brycheiniog, Aberhonddu

2 Tachwedd 2024

Sefydliad y Glowyr Coed Duon