Dydd Gwener 10 Hydref 2025
10:00 am - 6:00 pm

Os India oedd ‘yr em yn y goron ymerodrol’, a allem ddadlau mai Cymru oedd trefedigaeth gyntaf Lloegr? Wrth i Gymru frwydro am ei hunaniaeth o fewn ‘Prydeindod’, a oes cymariaethau ystyrlon i’w tynnu o’r profiad Indiaidd? Mae’r gynhadledd hon yn cyd-daro â phrif arddangosfa Oriel Gelf Glynn Vivian, sef Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain (tan 2 Tachwedd 2025) sy’n cynnwys mwy na 120 o gelfweithiau gan dros 70 o artistiaid o Gymru, India, Pacistan, Lloegr ac UDA. Mae’r rhaglen hon yn archwilio’r prif adrannau thematig o’r arddangosfa; gan ddadansoddi’r elfennau hanesyddol a chyfoes sy’n cysylltu isgyfandir India â Chymru gyda help artistiaid, curaduron, haneswyr (celf) a damcaniaethwyr diwylliannol.

Am ddim, rhaid cadw lle.

Ffoniwch 01792 516900 neu cadwch le ar-lein

10:00yb –11:00yb

Bore Astudio yn yr arddangosfa, Teigrod a Dreigiau

11:15yb – 11:25yb

Croeso gan Karen MacKinnon (MBE), Curadur Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe

Croeso gan Dr Peter Dent, Pennaeth Hanes Celf, Prifysgol Bryste, y DU

Trosolwg byr oddi wrth guradwyr arddangosfa Teigrod a Dreigiau:

Katy Freer a Dr Zehra Jumabhoy

11:30yb – 1:00yp

Tirluniau: Prydeindod, Brwydrau a Theigrod

11:30yb – 11:50yp: Viewing India (from Flintshire): Thomas Pennant’s View of ‘Hindoostan’ (1798)
Dr Rhys Kaminski-Jones (Prifysgol Cymru) – 20 munud

11:55yb – 12:15yp: Romantic Landscapes: J.M.W. Turner’s Visions of Wales and India
Dr Nicole Cochrane (Tate Britain, Llundain) – 20 munud

12:20yp – 12:40yp: Victoria’s ‘Hunting’ Scenes: Amna Walayat’s Paintings and their Mughal-era sources

Dr Mehreen Chida-Razvi (SOAS, Prifysgol Llundain) – 20 munud

12:45yp – 1:00yp: Ymatebydd: Katy Freer (Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe)

1:00yp – 1:45yp Egwyl Cinio (45 munud)

 1.45yp – 3.00pyp

Dreigiau a Mamwledydd

Cadeirydd: Yr Athro Martin Johnes (Prifysgol Abertawe)

 1:45yp – 2:15yp: Wales as Woman (how The Bard lost out to Blodwen)

Peter Lord (hanesydd celf arobryn o Gymru) – 30 munud

 2:20yp – 2:40yp: The Welsh Dragon is a Ludic Being

Dr Sarah Pogoda (Prifysgol Bangor) – 20 munud

 2:45yp – 3:00yp Trafodaeth dan arweiniad y Cadeirydd

3:15yp – 5:00yp

Gwreiddiau ac Iaith

3:15yp – 3:35yp: On Welshness and Whiteness

Yr Athro Daniel G. Williams (Prifysgol Abertawe) – 20 munud

3:40yp – 4:00yp: Of Roots and Rooted-ness

Dr Zehra Jumabhoy (Prifysgol Bryste) – 20 munud

4:05yp – 4:25yp: Gardening the Archive: Anthotypes, Empire and Photographic Resistance

David Alesworth (Artist, Bryste) – 20 munud

4:25yp – 4:35yp: Ymatebydd: Dr Rhys Kaminski-Jones (Prifysgol Cymru)

4:35yp – 5:00yp

DIODYDD A LANSIAD LLYFR TEIGROD A DREIGIAU

Cynhadledd a drefnir ar y cyd gan: Brifysgol Bryste ac Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe

Cynulliwyd gan: Zehra Jumabhoy a Katy Freer i gyd-fynd ag arddangosfa Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain yn Oriel Gelf Glynn Vivian.

Mae arddangosfa Teigrod a Dreigiau: India a Chymru ym Mhrydain wedi’i churadu gan Swyddog Arddangosfeydd Oriel Gelf Glynn Vivian, Katy Freer, a’r hanesydd celf Dr Zehra Jumabhoy ym Mhrifysgol Bryste. Ariannwyd ymchwil Jumabhoy ar gyfer yr arddangosfa gan un o Gymrodoriaethau Ymchwil Guradurol Paul Mellon Centre for British Art.

Mae’r arddangosfa hon yn bosib oherwydd grant gan Raglen Fenthyca Weston drwy Art Fund.

Mae’r arddangosfa’n ddiolchgar am gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Casgliad Taimur Hassan; Canvas Gallery, Karachi; Grosvenor Gallery, Llundain; Chatterjee & Lal Gallery, Mumbai, a Chemould Prescott Road, Mumbai.

Zehra yw Cymrawd Arweinwyr y Dyfodol cyntaf Ymddiriedolaeth Berger ar gyfer hanes celf Prydain 2025-26 (a lansiwyd gan Trinity Hall, Prifysgol Caergrawnt, a The Huntington, Califfornia). Hwyluswyd y gynhadledd hon o ganlyniad i ddyfarnu’r Gymrodoriaeth hon.

Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.  

Cysylltwch cyn y gweithdy os oes gennych anghenion mynediad penodol.  

Ffôn: 01792 516900    

E-bost: glynn.vivian.gallery@abertawe.gov.uk   

I ddarllen datganiad mynediad yr Oriel cliciwch yma