Bydd y gronfa Cysylltu a Ffynnu yn cefnogi ac annog prosiectau cydweithredol rhwng sefydliadau, unigolion, a gweithwyr proffesiynol creadigol, ac yn cynnig grantiau rhwng £500 a £150,000. Bydd pwyslais cryf ar gysylltu artistiaid unigol gyda grwpiau a sefydliadau sydd ddim o reidrwydd yn rhai celfyddydol, yn ogystal â llenwi’r bylchau yn seilwaith y celfyddydau y mae'r pandemig cyfredol wedi'u hamlygu.
Bydd y gronfa yn helpu i roi cyfle i leisiau sydd ddim yn cael eu clywed yn amal, ac yn gam tuag at wneud y celfyddydau yng Nghymru yn fwy cynrychioliadol a hygyrch. Mae Cyngor y Celfyddydau yn chwilio am syniadau sy'n dangos cysylltiad go iawn â phobl leol a chymunedau amrywiol Cymru.
Dyma gyfle i ddechrau'r broses o ail-ddychmygu sut y gall artistiaid ym mhob maes o fywyd creadigol, o artistiaid gweledol i ddylunwyr goleuadau, gynnal eu hunain a darganfod gwahanol ffyrdd o wneud celf yn sgil effaith dinistriol Covid-19 ar y sector gelfyddydol.
Bydd y gronfa yn agor 7 Hydref ond y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar gyfer y rownd gyntaf yw 4 Tachwedd. Bydd ail rownd yn agor ddiwedd mis Ionawr fel y gall prosiectau gymryd yr amser i ddatblygu'n iawn.
Y gyllideb ar gyfer dwy rownd gyntaf Cysylltu a Ffynnu yw £4miliwn ac mae’n arian a ddosberthir gan Gyngor Celfyddydau Cymru o elw'r Loteri Genedlaethol.
I gefnogi'r rhaglen newydd, rydym yn eich gwahodd i sesiwn friffio ddigidol gyda chefnogaeth Canolfan Gelf Butetown, Neuadd Ogwen, Disability Arts Cymru, a Chwmni Theatr Taking Flight. Cliciwch yma i archebu'ch lle ar Sesiwn friffio Cysylltu a Ffynnu.
Rydym hefyd yn eich gwahodd i sesiwn ryngweithiol fyw 3 awr, Cydweithio, sy'n archwilio sut i gydweithio’n well.
Bydd manylion a chanllawiau llawn ar gael ar ein gwefan o ddydd Llun Hydref 5, 2020.