Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn nodi ei diwrnod cyntaf ar Sadwrn y 5ed o Awst, ac yn cau ar y 12fed o Awst, gyda sioe arbennig Tân yn Llŷn – gorymdaith sy’n cyfuno syrcas, pypedau a thân gwyllt. Bydd y gwaith hwn, sydd wedi’i gomisiynu gan yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda nawdd uniongyrchol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn cyfeirio at draddodiad gweithredu uniongyrchol, wrth archwilio themâu heddwch, balchder a pherthyn.

Rhan arall o brif nawdd Y Cyngor i’r Eisteddfod yw perfformiadau Theatr Stryd, cynllun sy’n troi’r Maes ei hun yn un llwyfan cyffrous ar gyfer perfformiadau i’w mwynhau ac i gymryd rhan ynddynt. 

Trydedd rhan nawdd uniongyrchol Y Cyngor yw cynllun sy’n edrych ar sut i wneud y profiad ymwelwyr mor hygyrch â phosib. Bydd Swyddog Hygyrchedd newydd yn gweithio drwy gydol yr wythnos yn dysgu a chynghori er mwyn cynnig y profiad mwyaf hygyrch a chynhwysol posib. Yn ogystal, bydd ymwelwyr byddar yn medru gofyn am ddarpariaeth cyfieithydd British Sign Language (BSL) er mwyn mwynhau yr amrywiaeth eang o brofiadau sy’n cael eu cynnig wrth ymweld â’r Eisteddfod.

Cynhwysedd hefyd yw’r nod gyda Mas ar y Maes: partneriaeth rhwng y gymuned LHDTIAC+, Stonewall Cymru a’r Eisteddfod. Gyda nawdd drwy gronfa Loteri ‘Cysylltu a Ffynnu’ Cyngor Celfyddydau Cymru, bydd Mas ar y Maes yn cynnig rhaglen lawn sy’n cynnwys drama, cabaret, llenyddiaeth a cherddoriaeth, ac ar Ddydd Iau’r Eisteddfod bydd gwahoddiad i ymwelwyr i gymryd rhan mewn cynhadledd sy’n trafod popeth LHDTIAC+.

Os am fymryn o dawelwch, camwch i Ardd Gudd yr Eisteddfod ac efallai y gwelwch ddrws mawr du, hudol, â’r rhif deg yn amlwg ar ei flaen. Bydd cwmni theatr Mewn Cymeriad yn eich gwahodd i gamu drwyddo, i’r gorffennol, a chewch gwrdd ag un o fawrion Llanystumdwy sef y Prif Weinidog, David Lloyd George.

Ond cyfle i hedfan i’r dyfodol caiff adar y nos Maes B ar nos Wener yr Eisteddfod mewn cyd-gynhyrchiad arbennig gan gwmni Theatr Fran Wen ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru o’r enw Popeth ar y Ddaear. Mae’r cynhyrchiad yma wedi’i gefnogi gan Llenyddiaeth Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Phrifysgol De Cymru ac wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy'r Loteri Genedlaethol. Parti i roi pen ar bob un arall yw hwn, a berfformir yn Maes B am 11 yr hwyr ar 11 Awst. Bydd Popeth ar y Ddaear yn gwahodd y gynulleidfa i gamu mewn i fyd yn y dyfodol agos ble mae trychineb catastroffig wedi boddi cymunedau.

Mae ein cwmnïau theatr yn hynod brysur eleni, mae Popeth ar y Ddaear yn un o bump cynhyrchiad gan ein Theatr Genedlaethol eleni, a’r pump yn cael eu llwyfannu mewn lleoliadau gwahanol ar y maes. Mae Theatr Clwyd yma hefyd, gyda chynhyrchiad o Fleabag, drama gomedi enwog Phoebe Waller-Bridges sydd wedi’i haddasu i’r Gymraeg gan Branwen Davies.

Ac os nad ydych chi am eistedd yn llonydd drwy berfformiad theatrig, yna tapiwch eich traed i gerddoriaeth yn y Tŷ Gwerin, cliciwch eich sodlau gyda dawnsio Twmpdaith a Qwerin neu neidiwch ar eich traed yn sesiynau Dawns i Bawb. Dyma ichi flas yn unig o’r hyn mae Cyngor y Celfyddydau yn ei gefnogi yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Fydd ymweliad â’r Eisteddfod ym Moduan yn sicr ddim yn gam gwag!