Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymateb i adroddiad yr oedd wedi’i gomisiynu yn Chwefror 2020 am farchnata’r celfyddydau Cymraeg.

Catrin Llwyd a Lowri Johnston oedd yr awduron yr adroddiad i ystyried y ffordd orau o gysylltu â chynulleidfaoedd, artistiaid a chyfranogwyr Cymraeg.
 

Ymhlith yr argymhellion oedd:

  • cydweithio â sefydliadau yng Nghymru i lobïo Gwgl i gydnabod y Gymraeg yn iaith swyddogol fel y gellid hysbysebu yn Gymraeg yno
  • creu cyfleoedd i rwydweithio a chodi proffil y celfyddydau Cymraeg drwy gyfrwng y Saesneg ac ennyn sylw i waith Cymraeg ymhlith y di-Gymraeg
  • cynllunio’n strategol rhwng y Cyngor, cwmnïau cynhyrchu, lleoliadau a chymunedau Cymraeg i gynnal rhagor o ddigwyddiadau ledled Cymru a rhoi’r cyfle i bawb fwynhau’r celfyddydau Cymraeg a chymryd rhan ynddynt

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cymraeg y Cyngor, yr Athro Tudur Hallam:

"Mae’n adroddiad pwysig a lwyddodd i ymateb i anawsterau’r pandemig. Ymgynghorodd awduron yr adroddiad â chynrychiolwyr cymunedol amrywiol o bob cwr o'r wlad.

"Mae'n ategu’r Adroddiad Mapio'r Gymraeg a gomisiynwyd yn 2019. Mae’r ddau adroddiad erbyn hyn yn rhoi cipolwg ar y posibiliadau gan roi trosolwg cynhwysfawr o'r anghenion a'r cyfleoedd sydd gennym.

"Rydym ni hefyd wedi creu swydd newydd, Ysgogwr y Gymraeg, sy’n gam i wireddu gweledigaeth yr adroddiadau. Mae Einir Siôn, cyn-Gyfarwyddwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, yn dechrau yn y swydd ar 1 Tachwedd."

Diwedd                                                                              27 Hydref 2021

Nodiadau i’r golygydd:

  • Yma mae'r ymateb i adroddiad am Farchnata'r Gymraeg (2020) ac yma mae’r adroddiad gwreiddiol gan Catrin Llwyd a Lowri Johnston
  • Yma mae adroddiad Mapio'r Gymraeg gan Elen ap Robert (2019) ac yma mae’r ymateb
  • Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r wasg yn y Cyngor ar 029 2044 1344/1307