Meddai Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Rwy'n cofio'n dda effaith drawiadol ei gydweithio â’r actor enwog, Alan Howard, ar ddramâu hanes Shakespeare yn y 1970au a'i arweinyddiaeth o Gwmni Theatr Brenhinol Shakespeare hyd at y 1990au. Roeddem ni’n gyffro i gyd pan ddaeth Terry yma i arwain Theatr Clwyd yn gyfarwyddwr artistig yn 1997.
"Gwnaeth Terry gyfraniad enfawr i ddatblygiad y theatr yng Nghymru. Roedd wrth ei fodd gydag actorion a'u gallu i wefreiddio cynulleidfa. Magodd gwmni gwych o actorion yn yr Wyddgrug. Roedden nhw yn eu tro’n deyrngar iddo fe - yn eu plith nifer fawr o actorion, sydd bellach yn cael eu hystyried yn sêr.
"Roedd ei gynyrchiadau’n ddeinamig a difyr bob tro. Gwnaeth waith o safon ryngwladol gyda’i dalent o safon ryngwladol.
"Bydd pobl sy’n caru’r theatr yng Nghymru o hyd yn ddiolchgar iddo am oleuo eu dychymyg a chyflwyno’r fath wledd a rydym yn dathlu ei waddol hefyd mewn theatr sydd wedi mynd ymlaen o nerth i nerth."
DIWEDD 5 Chwefror 2020